**Mae’r gystadleuaeth nawr wedi cau. Gallwch gael gwybod pwy yw’r ennillwyr yma.**
Ydych chi’n hoffi gweld bywyd drwy lens? Neu a ydych yn awyddus i ddal y foment ar eich ffôn clyfar?
Mae Tai Gogledd Cymru yn galw ar ffotograffwyr amatur i gymryd rhan yn ein cystadleuaeth ffotograffiaeth newydd, Y Darlun Mawr.
Mae dau gategori oedran ar gael:
- 16 oed a hŷn
- 15 oed ac iau
Eleni y thema yw Gogledd Cymru. Meddyliwch am yr hyn rydych yn ei hoffi am fyw yng ngogledd Cymru a thynnwch lun!
GWOBRAU – Bydd yna wobrau i’r enillwyr ac i’r ail orau ym mhob categori.
Dyddiad cau: Dydd Gwener 28 Hydref, 2016.
Sut i Gymryd Rhan
Rhaid i bob ymgeisydd fod yn denant Tai Gogledd Cymru.
Cofiwch gynnwys y wybodaeth ganlynol gyda’ch cais:
- Eich enw
- Eich cyfeiriad, rhif ffôn a’ch cyfeiriad e-bost
- Categori oedran
- Disgrifiad byr o’ch ffotograff a pham rydych chi wedi ei gynnig i’r gystadleuaeth (dim mwy na 50 gair).
EI ANFON ATOM
Byddai’n well gennym dderbyn eich cynigion drwy e-bost – anfonwch nhw at ein Cydlynydd Cyfranogiad Tenantiaid, Iwan Evans yn [email protected]. Fel arall, os oes gennych gyfrif Facebook gallwch anfon eich lluniau at dudalen Tai Gogledd Cymru fel neges breifat. Os byddai’n well gennych gyflwyno eich cynnig ar bapur, cysylltwch â ni. Ffoniwch Iwan Evans ar 01492 563232.