Os nad yw eich cartref yn diwallu eich anghenion gallwch wneud cais i gael eich ystyried am eiddo arall neu ddod o hyd i rywun y gallwch gyfnewid cartrefi gyda hwynt.
Cyfnewid gyda thenant Tai Gogledd Cymru arall
Os ydych yn denant gyda Tai Gogledd Cymru efallai y bydd gennych yr hawl i gyfnewid cartrefi gyda thenant Tai Gogledd Cymru arall. Gallwch hysbysebu eich cartref presennol a’r math o eiddo yr ydych ei angen drwy lenwi’r ffurflen hon a fydd wedyn yn cael ei chynnwys yn y Gofrestr Cyfnewid a gaiff ei harddangos yn ardal y Dderbynfa yn ein swyddfeydd.
Gallwch hefyd gyfnewid gan ddefnyddio cynlluniau fel Homeswapper a House Swap Wales:
Homeswapper
Gallwch hysbysebu a gweld eiddo eraill trwy ddefnyddio HomeSwapper, gwasanaeth mwyaf y DU i helpu pobl sy’n byw mewn eiddo cyngor neu gymdeithas dai gyfnewid cartrefi. Mae’r gwasanaeth hwn yn rhad ac am ddim i denantiaid Tai Gogledd Cymru, gan y byddwn yn talu eich costau cofrestru. Mae gan HomeSwapper nawr app ffon symudol, sydd yn gwneud cyfnewid ty yn haws fyth! Ar gael ar Apple App Store a Android.
House Swap Wales
Mae House Swap Wales yn wasanaeth rhad ac am ddim arall sy’n helpu tenantiaid ledled Cymru i gyfnewid cartrefi gan ddefnyddio Facebook.