Rydym yn chwilio am Hyrwyddwr Digidol newydd i ymgysylltu â thenantiaid er mwyn symud rhwystrau eithrio digidol. Bydd yr Hyrwyddwr yn darparu cefnogaeth a chyngor i denantiaid ynglŷn â defnyddio offer digidol, gan gynnwys cefnogaeth un-i-un neu sesiynau grŵp bach er mwyn darparu dysgu digidol.
Ni fydd gwirfoddolwyr Tai Gogledd Cymru allan o boced. Byddant yn cael eu had-dalu am unrhyw gostau a achosir o ganlyniad i’w hymrwymiad a’u cyfraniad mewn gweithgareddau sy’n cyflawni rôl Hyrwyddwr Digidol.
Manteision Gwirfoddoli
- Datblygiad personol
- Ennill sgiliau a phrofiad newydd
- Gwella rhagolygon cyflogaeth
- Defnyddio sgiliau presennol
- Cwrdd â phobl newydd
- Gwella hyder
- Mynediad i hyfforddiant
- Gwella lles emosiynol
Mae bod yn wirfoddolwr yn medru cynnig cyfle i ddysgu sgiliau newydd a datblygu hyder drwy weithredu gyda gwirfoddolwyr eraill, staff cyflogedig a defnyddwyr gwasanaeth.
Y broses ymgeisio
Mae’n hawdd ac yn syml i chi wirfoddoli gyda Tai Gogledd Cymru.
- Cysylltwch gyda ni er mwyn gadael ni wybod bod gennych ddiddordeb – gallwch anfon e-bost, dros y ffôn neu yn bersonol
- Byddwn yn trefnu sgwrs anffurfiol i drafod y cyfleodd â’r opsiynau sydd ar gael
- Mae’n bosib y byddwn yn trefnu sesiwn blasu i weld sut fyddwch yn dod ymlaen
- Byddwn wedyn yn eich gwahodd i gwblhau ffurflen gais
- Bydd angen i chi ddarparu dau eirda boddhaol – gall y rhain fod yn eirda personol, neu eirda gan gyflogwr presennol neu flaenorol, rheolwr, tiwtor neu weithiwr cefnogol
- Os yw’r swydd wirfoddoli rydych yn ymgeisio amdani yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, byddwn yn gwneud cais am hynny yn y cam yma
- Unwaith y bydd popeth arall wedi ei gwblhau, byddwn yn trefnu i chi gael eich ymsefydlu ar y safle i wneud yn siwr eich bod chi’n gyfarwydd â phopeth
- Rydych yn barod i ddechrau!
Mwy o fanylion
Am fanylion pellach cysylltwch â Sam Roberts, Swyddog Digidol [email protected] neu ffonio 01492 563295.