Digwyddiad Arddangos Gwasanaethau Tai â Chymorth (Conwy)

Mae adran Tai a Chymorth Tai Gogledd Cymru yng Nghonwy yn cynnal Digwyddiad Arddangos i dynnu sylw at y gwasanaethau tai a chymorth rydym yn eu darparu ar draws Conwy, Sir Ddinbych, Gwynedd ac Ynys Môn

Mae’r digwyddiad wedi ei anelu at ddarparwyr gwasanaeth, asiantaethau, sefydliadau a phartïon â diddordeb a fyddai’n hoffi i gael gwybod mwy am y gwasanaethau y gallwn eu cynnig a sut i gyfeirio pobl at ein gwasanaethau.

Bydd staff Tai Gogledd Cymru yn arddangos pob gwasanaeth a bydd yn gallu trafod sut y gallem weithio gyda’ch defnyddwyr gwasanaeth, yn ogystal â darparu gwybodaeth ar sut i gyfeirio at wasanaethau.

Bydd hefyd nifer o ddefnyddwyr gwasanaeth yn bresennol a chyn wrth law i rannu eu profiadau gyda mynychwyr.

Os hoffech gael unrhyw wybodaeth bellach ynghylch y digwyddiad hwn, peidiwch ag oedi i gysylltu â Kerry Jones ar [email protected] neu drwy ffonio 07899 966,730.

Categori Partneriaid, Tai â Chymorth
Lle? Colwyn Bay - Dangos Map
Dechrau 11:00 - Dydd Mercher 21 Medi, 2016
Gorffan 14:00 - Dydd Mercher 21 Medi, 2016