Grŵp Ffocws tenantatiaid ar gydraddoldeb ac amrywiaeth
Cymerwch ran yn ein Grŵp Ffocws tenantatiaid ar gydraddoldeb ac amrywiaeth
18 Awst 2022 ar Zoom
Bydd pawb sy’n mynychu’r grŵp ffocws yn cael eu cynnwys mewn raffl i ennill talebau stryd fawr gwerth £50!!
Mewn partneriaeth â Tai Pawb, mae Tai Gogledd Cymru yn gweithio tuag at ennill gwobr Ansawdd mewn Cydraddoldeb ac Amrywiaeth (QED). Mae Tai Pawb yn fudiad aelodaeth sy’n hyrwyddo cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol ym maes tai yng Nghymru. Mae’n credu bod gan bawb yr hawl i gael mynediad at dai a chartrefi o ansawdd da mewn cymunedau cydlynol a diogel. Ei amcan yw ceisio lleihau rhagfarn, anfantais a thlodi.
Os hoffech chi gymryd rhan neu ddysgu mwy am y grŵp ffocws, cysylltwch ag Iwan ar [email protected] neu 01492 563232
Categori | Ymgynghori |
Lle? | Zoom Arlein |
Dechrau | 12:00 - Dydd Iau 18 Awst, 2022 |
Gorffan | 13:00 - Dydd Iau 18 Awst, 2022 |