Conwy yn datblygu’n lleoliad o bwys ar gyfer mentrau cymdeithasol

Mae sir Conwy wedi cael ei chanmol fel un o’r ardaloedd gorau yn y DU ar gyfer cwmnïau sy’n cael eu rhedeg er budd y gymuned.

Conwy yw dim ond yr ail sir yng Nghymru ac un o 16 yn unig ar draws y DU i gael ei chydnabod yn swyddogol fel un o’r ardaloedd gorau o ran mentrau cymdeithasol – busnesau sy’n masnachu ar ran y gymuned gan gynhyrchu eu hincwm drwy werthu nwyddau neu wasanaethau yn hytrach na thrwy dderbyn grantiau a rhoddion ariannol.

Cafodd y cais ar gyfer achrediad ei roi at ei gilydd gan y grŵp Datrysiadau Busnesau Menter Gymdeithasol, y felin drafod ddylanwadol sy’n cydlynu gwaith y 10 menter gymdeithasol lwyddiannus yn y sir, sy’n cynnwys Tai Gogledd Cymru, Cais, Crest, TAPE, Glasdir, Golygfa Gwydr, CGGC a Cartrefi Conwy.

I ddathlu achrediad Conwy fel Man Menter Gymdeithasol treuliodd cynrychiolwyr o Social Enterprise UK, sef y corff cenedlaethol sy’n rhedeg y cynllun, ddau ddiwrnod yn ymweld â nifer o fentrau cymdeithasol yng Nghonwy a gyfrannodd at sicrhau’r achrediad.

Ymwelwyd â Porters, caffi Cais, TAPE – cwmni menter gymdeithasol cerddoriaeth a ffilm, Crest Co-operative, chanolfan cynadleddau busnes cymunedol Glasdir yn Llanrwst a Golygfa Gwydyr, menter gymdeithasol sy’n rhedeg cynllun rheoli coetiroedd gan gyflenwi amrywiaeth o wasanaethau sy’n darparu ar gyfer perchnogion coetiroedd cyhoeddus a phreifat yng Nghonwy wledig a’r ardaloedd cyfagos.

Daeth y daith ddeuddydd i ben gyda digwyddiad lansio Man Menter Gymdeithasol ar gyfer tua 100 o gynrychiolwyr mentrau cymdeithasol ac awdurdodau lleol Conwy yng nghartref Clwb Pêl-droed Conwy sef Stadiwm Y Morfa. Dywedodd Prif Weithredwr Social Enterprise UK Peter Holbrook fod yr holl enghreifftiau a welodd yng Nghonwy dros y ddau ddiwrnod wedi gwneud argraff dda iawn arno.

Ychwanegodd Mr Holbrook:

“Maent yn dangos yr egni sy’n bodoli wrth galon y symudiad hwn. Mae Social Enterprise UK yn gweithio i alluogi, helpu a chefnogi mentrau cymdeithasol i ffynnu gan gefnogi’r sector drwy ein hymgyrch ‘prynwch yn gymdeithasol’.”

“Mae hefyd yn dda gweld mentrau cymdeithasol yn gweithio gydag awdurdodau lleol i ail-ddychmygu ffyrdd o gyflenwi gwasanaethau ar adeg o alw cynyddol ac adnoddau llai. “Cefais argraff dda iawn o gais Conwy am statws Man Menter Gymdeithasol a’r ffordd y mae wedi bod yn ddiflino wrth hybu mentrau cymdeithasol.”