Datgelu Clwb Seren ar ei newydd wedd!
Mae’n amser Clwb Seren eto, ond efallai ei fod yn edrych mymryn yn wahanol y tro hwn. Ydi, mae Clwb Seren wedi cael ei weddnewid!
I godi ein calonnau wrth i ni agosáu at ddiwedd yr haf, mi wnaethon ni benderfynu y byddai’n syniad da i Clwb Seren gael delwedd newydd. A diolch i Blah d Blah dyna sydd wedi digwydd.
Gallwch ddarllen y cylchlythyr tenantiaid ar ei newydd wedd yma. Mae’r uchafbwyntiau’n cynnwys:
- Y diweddaraf ar recriwtio ein Prif Weithredwr newydd
- Enillwyr y gystadleuaeth Garddio
- Y diweddaraf am ymdrechion codi arian Hosbis Dewi Sant
- Lansio cystadleuaeth ffotograffiaeth newydd ‘Y Darlun Mawr’.
Beth yw eich barn am y cylchlythyr ar ei newydd wedd? Rhowch wybod i ni drwy gwblhau’r holiadur byr hwn https://www.surveymonkey.co.uk/r/FWDQYWX