Dod â’r argyfwng tai i ben, adeiladu Cymru gryfach

Mae Cartrefi Cymunedol Cymru (CCC) wedi dechrau ymgyrch o’r enw ‘Cartrefi i Gymru’, ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o faterion tai yng Nghymru a sicrhau bod tai yn fater gwleidyddol allweddol yn ystod eleni sy’n flwyddyn etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gallwch ddarllen mwy ar y wefan yma.

Un ffordd y gallwch chi helpu i gefnogi’r ymgyrch yw drwy roi pin ar eu gwefan a dweud pam eich bod yn cefnogi Cartrefi i Gymru.

Cael trafferth cael tŷ eich hun? Eisiau prynu ond yn cael trafferth cael digon o flaendal? Dal i fyw gyda’ch rhieni? Beth am ddweud wrth eich AC lleol am eich stori tai. Mae gwefan Cartrefi i Gymru wedi’i gwneud yn hawdd i chi wneud hyn drwy lenwi ffurflen ar eu gwefan.

Bydd yr ymgyrch yn cyrraedd uchafbwynt gyda rali yng Nghaerdydd ar ddydd Gwener 4 Mawrth 1yp-6yp. Os ydych chi yng Nghaerdydd beth am ymuno â’r Rali?

Homes for wales