Newidiadau Cyffrous yn Dod i Wasanaeth Glanhau Tai Gogledd Cymru!

Yn Tai Gogledd Cymru, rydym bob amser yn awyddus i wrando ar eich adborth a defnyddio hwn i wella ein gwasanaethau. Dyna pam rydym wrth ein bodd yn cyhoeddi ein gwasanaeth Glanhawr a Gofalwr newydd, a fydd yn dod â rhai newidiadau i’r gwasanaethau glanhau a ddarparwn wrth sicrhau bod safon uchel o lanweithdra yn cael ei ddarparu.

Un o’r newidiadau allweddol yw ein bod yn dod â’n gwasanaeth glanhau yn fewnol, mae hyn yn golygu os ydych yn derbyn gwasanaeth glanhau ar hyn o bryd gan Tai Gogledd Cymru bydd hwn yn cael ei ddarparu gan ein timau ymroddedig ein hunain yn y dyfodol. Mae hwn yn newid pwysig sy’n rhoi mwy o reolaeth i ni dros ansawdd y gwasanaeth a ddarparwn. Mae hyn yn golygu efallai y byddwch yn gweld rhai wynebau newydd ymhlith ein staff glanhau wrth i ni gyflwyno aelodau ymroddedig i’n tîm.

Ni fydd y newidiadau hyn yn effeithio ar daliadau gwasanaeth eleni.

Yn unol â lansiad ein gwasanaeth Glanhau a Gofalwr, rydym hefyd yn gyffrous i gyhoeddi nifer o swyddi gwag yn ein tîm. Rydym yn chwilio am unigolion brwdfrydig i ymuno â ni fel:

  • Glanhawyr Cymunedol (Llawn Amser, Rhan Amser)
  • Gofalwyr Cymunedol (Llawn Amser)
  • Goruchwyliwr Gwasanaethau Glanhau (Llawn Amser)

Os ydych chi’n angerddol am gynnal amgylcheddau glân a chroesawgar a bod gennych ddiddordeb mewn ymuno â’n tîm, rydym yn eich annog i wneud cais am un o’r swyddi gwerth chweil hyn. I gael rhagor o wybodaeth am y rolau hyn ac i wneud cais, ewch i’n tudalen gyrfaoedd yma.