Pen-blwydd Hapus yn 5 oed i’n Tîm Trwsio!

Dathlodd Tîm Trwsio Tai Gogledd Cymru ei ben-blwydd yn 5 oed ym mis Rhagfyr 2015. Cafodd y Tîm barti pen-blwydd bach i nodi’r achlysur, gan ddathlu dros de a chacen ar ddydd Gwener 15 Ionawr, 2016.

Cyn sefydlu’r tîm roedd y gwasanaeth Trwsio yn cael ei gontractio allan. Pan aeth y contractiwr allan o fusnes ychydig cyn y Nadolig ym mis Rhagfyr 2010 penderfynodd Tai Gogledd Cymru ddod â’r gwasanaeth yn fewnol gan achub 8 o swyddi.

Ers hynny, mae’r tîm Trwsio wedi mynd o nerth i nerth, a bellach mae tîm o 20 gweithiwr yn cael eu cyflogi. Mae pump o’r rhai a gyflogwyd yn wreiddiol yn dal i fod gyda ni heddiw, sef Andrew Adderley, Allan Jones (sy’n cael ei adnabod hefyd fel yam yam), Eddie Maitas, Kevin Wood a’r prentis John Jones sydd bellach yn beiriannydd nwy cymwysedig. Maen nhw hefyd wedi symud i gartref newydd yn Adeilad Hadley, Conwy.

Cafodd y tîm hwb pellach wrth ychwanegu 10 recriwt medrus newydd ac wrth i’r gwasanaethau ehangu i gynnwys cynnal a chadw cynlluniedig ym mis Tachwedd 2013, gan weithio i osod ceginau ac ystafelloedd ymolchi newydd. Yn 2014 lansiwyd Cribiniau ac Ystolion, tîm tiroedd a chynnal a chadw mewnol.

Felly Pen-blwydd Hapus Trwsio, a phob dymuniad da i’r tîm am 5 mlynedd arall a thwf pellach!