Rydym yn chwilio am asiantaeth PR / Marchnata!
27 Hydref 2017
A ydych chi’n asiantaeth PR / Marchnata yng Nghymru? Mae angen eich help arnom!
Rydym yn dymuno penodi asiantaeth Cysylltiadau Cyhoeddus/Marchnata i ddarparu gwasanaeth yn ystod cyfnod absenoldeb mamolaeth y Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata o fis Rhagfyr 2017 hyd at ddiwedd mis Medi 2018 (10 mis).
Am fwy o wybodaeth am anghenion y gwaith yma a’r dyfynbris lawr lwythwch y ddogfen yma:
Gwybodaeth ar ddyfynbris asiantaeth Cysylltiadau Cyhoeddus/Marchnata
Mae’r dyddiadau allweddol ar gyfer y dyfynbris hwn fel a ganlyn:
- Dyddiad cau: 1yp dydd Gwener 17 Tachwedd 2017
- Dyddiadau cyfweld: Yr wythnos yn cychwyn dydd Llun 20 Tachwedd 2017
- Dyddiad trosglwyddo: Yr wythnos yn cychwyn 27 Tachwedd 2017
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen eglurhad pellach arnoch cysylltwch â Sian Parry, Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata yn [email protected].