Tai Gogledd Cymru yn camu ymlaen ar daith ddigidol

Mae Tai Gogledd Cymru wedi codi ei gêm ddigidol gan lofnodi a chyflawni achrediad i ‘Siarter Cynhwysiant Digidol Cymunedau Cymru Ddigidol’.

Mae’r Siarter ar gyfer sefydliadau yng Nghymru sy’n hyrwyddo sgiliau digidol sylfaenol a helpu pobl i fynd ar-lein. Drwy lofnodi’r siarter mae Tai Gogledd Cymru yn cytuno i gefnogi chwe egwyddor y Siarter Cynhwysiant Digidol ac i fynd ati i weithio er mwyn hyrwyddo sgiliau digidol sylfaenol a chael pobl ar-lein.

Dyma’r cam diweddaraf yn nhaith ddigidol TGC, a ddechreuodd yn ôl yn gynnar yn 2014, pan wnaed y penderfyniad i fynd yn ddigidol ar gyfer ei adolygiad blynyddol.

“Cyn hyn roedd miloedd o gopïau printiedig yn cael eu hargraffu a’u postio. Drwy ddatblygu Adolygiad Blynyddol digidol yn unig, a chynnig copïau caled i’r rhai sy’n gofyn amdanynt, rydym yn arbed arian i’r sefydliad yn ogystal â bod yn fwy ystyriol o’r effaith ar yr amgylchedd.”

Ers hynny mae grŵp o denantiaid wedi cymryd rhan yn y grŵp ‘Digidol yn Gyntaf’, a fu’n helpu i adolygu, adnewyddu ac ail-lansio’r porth tenantiaid llwyddiannus ‘Fy TGC’, datblygu Strategaeth Digidol yn Gyntaf, yn ogystal â helpu i ail-ddatblygu gwefan Tai Gogledd Cymru.

Esboniodd, Brett Sadler, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cymunedau a’r un sy’n arwain ar faterion digidol yn Tai Gogledd Cymru:

“Ein nod yw peidio â gorfodi ein tenantiaid i fynd ar-lein, ond i’w hannog a’u cefnogi os ydynt a wneud hynny. Amcangyfrifir y gallai aelwyd arbed cyfartaledd o £560 y flwyddyn yn unig drwy fod ar-lein.”

“I rai o’n tenantiaid hŷn, mi allai bod yn fwy ymwybodol yn ddigidol olygu ei bod hi’n haws cadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau, ac efallai cysylltu drwy Facebook gyda ffrindiau nad ydynt wedi eu gweld ers amser hir!”

Felly beth nesaf ar gyfer ‘taith ddigidol’ Tai Gogledd Cymru? Ym mis Hydref 2016 cafodd Sioned Williams ei recriwtio gan TGC fel Swyddog Digidol, sydd wedi gweithio ar nifer o brosiectau cynhwysiant digidol Llywodraeth Cymru, i wneud y daith ddigidol ychydig yn haws. Bydd yn gweithio gyda phreswylwyr a staff, gan deilwra gweithgareddau i’w hanghenion.

Dywedodd Sioned Williams, Swyddog Digidol:

“Roeddwn yn edrych ymlaen yn arw i ddechrau fy ngwaith fel Swyddog Digidol. Rwy’n frwd dros gynhwysiant digidol ac yn credu fod cael eich cynnwys yn ddigidol yn agor cymaint o ddrysau – ond ar yr un pryd, mae’n ymwneud â gweithio gydag unigolion er mwyn dod o hyd i beth sydd ynddo iddyn nhw, ac nid eu gwthio i wneud popeth ar-lein os nad ydyn nhw’n dymuno.”

“Am y tro, byddaf yn canolbwyntio ar ddarparu hyfforddiant priodol i staff a phreswylwyr, hyrwyddo gwasanaethau digidol o fewn y sefydliad a sefydlu prosiectau digidol o fewn y cynlluniau – ac yna yn y pen draw mynd i lle bynnag mae’r swydd yn fy arwain!”IMG_0002

Mae Sioned eisoes wedi cychwyn arni, gan gynnal sesiynau digidol anffurfiol yn un o’n cynlluniau iechyd meddwl. Er bod yr ymateb yn ansicr ar y dechrau doedd hi ddim yn hir tan i’r preswylwyr ganfod eu llais, ac mi wnaeth Sioned eu cefnogi mewn cyfres o sesiynau, sydd eisoes wedi profi’n effeithiol:

Eglurodd un o’r preswylwyr:

“Mae’n dda cael help gan rywun rwy’n ei adnabod, mewn amgylchedd lle dw i’n gyfforddus… Doeddwn i ddim yn meddwl mai rhywbeth i mi oedd y rhyngrwyd, ond rwyf wedi sylweddoli heddiw bod rhywbeth am bopeth yno – mi wnes i hyd yn oed ddod i wybod mwy am hanes Pier Llandudno! I feddwl nad wyf erioed wedi rhoi cynnig arno o’r blaen, gyda chymorth *tenant *, mi wnes i agor y cyfan i fyny fy hun! Rwyf eisoes yn edrych ymlaen at y tro nesaf i weld beth arall y gallaf ddod o hyd iddo.”

Mae ail gam y Strategaeth Ddigidol yn awr yn barod i’w roi ar waith, felly gwyliwch y gofod yma!

Os ydych yn denant gyda Tai Gogledd Cymru ac os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn Hyrwyddwr Digidol neu eisiau help gyda bod yn fwy digidol cysylltwch â ni.