Tai Gogledd Cymru yn mabwysiadu Safon Adrodd ar Gynaliadwyedd ar gyfer Tai Cymdeithasol.

Mae Tai Gogledd Cymru yn falch o gyhoeddi ei fod wedi mabwysiadu’r Safon Adrodd ar Gynaliadwyedd ar gyfer Tai Cymdeithasol.

Cynaliadwyedd ar gyfer Tai (Sustainability for Housing), yw cartref y Safon Adrodd ar Gynaliadwyedd ar gyfer Tai Cymdeithasol (Sustainability Reporting Standard for Social Housing) – safon amgylcheddol, gymdeithasol a llywodraethu. Gynlluniwyd i helpu’r sector tai i fesur, adrodd a gwella ei berfformiad ESG mewn modd tryloyw a chyson.

Jayne Owen, Cyfarwyddwr Cyllid ac Adnoddau Tai Gogledd Cymru: “Mae Tai Gogledd Cymru yn hapus i gyhoeddi ein bod wedi ymuno â chymuned gynyddol sydd wedi mabwysiadu’r Safon Adrodd ar Gynaliadwyedd ar gyfer Tai Cymdeithasol.

Rydym yn gyffrous i fod yn rhan o’r gwaith o lunio adroddiadau ar berfformiad cynaliadwyedd y sector, ac i gefnogi’r gwaith da sy’n cael ei wneud gyda thrigolion a rhandaliad i greu canlyniadau cymdeithasol ac amgylcheddol cadarnhaol.

Bydd bod yn rhan o’r gymuned hon yn caniatáu i ni fuddsoddi yng nghynaliadwyedd ein cymunedau ar draws Gogledd Cymru, gan sicrhau dyfodol gwell i’n trigolion.”

Ychwanegodd Sustainability for Housing (SfH) “Rydym yn falch o groesawu cymdeithas dai arall yng Nghymru i’n cymuned o fabwysiadwyd. Rydyn ni eisiau i’r sector tai cymdeithasol gael un llais a rennir ar ESG ac mae hyn yn golygu dod â sefydliadau o bob maint ac o bob cornel.”

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i https://sustainabilityforhousing.org.uk/