Technoleg arloesol yn rhoi bywyd newydd i eiddo hanesyddol

Bydd tenantiaid sy’n byw mewn eiddo carreg traddodiadol yn elwa ar well effeithlonrwydd ynni, o ganlyniad i dechneg newydd a arloeswyd yng ngogledd Cymru.

Gan fod yr eiddo yn gartref i breswylwyr ag anawsterau corfforol ac anawsterau dysgu, nid oedd yn addas ar gyfer inswleiddio waliau mewnol oherwydd yr aflonyddwch a fyddai’n cael ei achosi o ailgartrefu’r preswylwyr dros dro a gweithio o amgylch eu hoffer arbenigol. Felly, penderfynwyd archwilio insiwleiddio allanol, gan ganiatáu i’r preswylwyr aros yn eu cartrefi drwy’r amser.

Fodd bynnag, oherwydd bod y rendrad gwreiddiol ac adeiladwaith y cartref yng Ngwynedd yn cael ei adeiladu o garreg a rendrad concrit (yr oedd angen ei ddisodli â rendrad calch), cafodd Tai Gogledd Cymru anhawster dod o hyd i gynnyrch a fyddai’n insiwleiddio’r waliau allanol wrth gwrdd â’r gofynion rheoliadau adeiladu ar gyfer adeiladau traddodiadol.

Fodd bynnag, drwy weithio gydag arbenigwyr ôl-osod lleol, Greenhouse Energy a Retrospect Consultancy Ltd ar gynllun peilot a gefnogir gan Lywodraeth Cymru, mae’r Gymdeithas wedi llwyddo i ddod o hyd i ateb ar gyfer yr eiddo. Mae techneg newydd wedi’i chreu, gan ddefnyddio cynnyrch aergel, sy’n dod â manteision effeithlonrwydd ynni sylweddol wrth gadw golwg draddodiadol yr adeilad.

Cyflwynodd y tîm y tu ôl i’r cynllun peilot eu tystiolaeth i Ofgem yn y gobaith y bydd y dechneg yn cael ‘statws arloesi’ ac y gellir ei chyflwyno yn raddol i eiddo traddodiadol tebyg, sy’n gyffredin mewn ardaloedd gwledig yng ngogledd Cymru a gweddill y DU. 

Dywedodd Ruth Lanham-Wright, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cartrefi Cymdeithas Tai Gogledd Cymru:

“Rydyn ni’n gweithio’n galed iawn i sicrhau bod pob cartref rydyn ni’n ei ddarparu o ansawdd uchel ac yn defnyddio adnoddau’n effeithlon. Gall hyn fod yn anodd gyda rhai adeiladau hŷn, traddodiadol, ond rydym wedi ymrwymo i ymateb i’r her hon a sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl.

“Gallai’r hyn rydym wedi’i gyflawni yng Ngwynedd osod y patrwm ar gyfer sicrhau y gellir parhau i uwchraddio eiddo tebyg ar draws y Gogledd a thu hwnt er mwyn gwella effeithlonrwydd ynni, ac yn y pen draw darparu gwell ansawdd bywyd i breswylwyr.

“Mae’r prosiect hwn wedi bod yn enghraifft ragorol o weithio mewn partneriaeth ar ei orau.”

Dywedodd Michael Robson, Rheolwr Gyfarwyddwr Retrospect Consultancy:

“Rwyf wrth fy modd ein bod wedi gallu gweithio gyda Tai Gogledd Cymru a Llywodraeth Cymru ar y dechneg arloesol hon.

Roedd yr eiddo hwn yn her sylweddol, gan nad oes dylunydd system cyfredol ar gyfer y cynnyrch hwn. Fodd bynnag, roeddem yn gallu uno dau gyflenwr presennol sydd wedi cydweithio’n agos i greu system newydd gyda’r bwriad o fynd â hi i’r farchnad yn swyddogol.”

Ychwanegodd Lee Morley, Cyfarwyddwr Independent Energy Savers Ltd a wnaeth y gwaith o’i gosod yn ei lle:

“Rwy’n credu ein bod wedi llunio un o’r Systemau Wal Allanol o’r safon uchaf i gael ei defnyddio yn y DU, ac rwy’n gobeithio y bydd yn cael ei defnyddio’n ehangach ar ôl yr astudiaeth achos yma. Daethpwyd â llawer o arbenigwyr ynghyd i wneud yn siŵr y byddai dyluniad y system a’r inswleiddio yn gweithio i safon uchel ac yn parhau cyhyd, os nad yn hirach na system safonol.”