TGC yn codi arian i Wythnos Gweithredu ar Ddementia

Mae wedi bod yn brysur gyda’r cynlluniau Pobl Hŷn yr wythnos hon gan eu bod wedi bod yn codi ymwybyddiaeth o Ddementia fel rhan o Wythnos Gweithredu ar Ddementia. Bu cerdded ar y pier, sesiynau gwybodaeth galw heibio, te prynhawn, tombola’s a rafflau… Heb sôn am y prynhawn crefftau a chacennau a’r prynhawn cymdeithasol sydd ar y gweill hefyd. Y swm terfynol oedd swm aruthrol o £1415.23!! Da iawn pawb am eu gwaith caled!