TGC yn dathlu wythnos prentisiaid

Roedd hi’n Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau 2021 rhwng 8 a 14 Chwefror 2021. Nod y dathliad wythnosol o brentisiaethau yw taflu goleuni ar y gwaith anhygoel sy’n cael ei wneud gan gyflogwyr a phrentisiaid ledled y wlad.

Mae Tai Gogledd Cymru yn hynod gefnogol i brentisiaid, ac mae ganddon ni hanes hir o gyflogi prentisiaid. Ar hyn o bryd mae gennym dri phrentis; Dylan Williams, Daniel Porter ac Eric Bee, pob un ohonyn nhw’n gweithio o dan y Tîm Cynnal a Chadw.

Fel rhan o Wythnos Prentisiaid Cymru fe wnaethon nhw rannu eu taith brentisiaeth gyda ni. Dyma beth oedd ganddyn nhw i’w ddweud:

Dylan Williams

Prentis aml-grefft

“Rydw i wedi bod yn brentis ers ychydig dros flwyddyn yn Tai Gogledd Cymru. Cyn i mi ddechrau fy rôl fel prentis aml-grefft, roeddwn yn Gynghorydd Gwasanaethau Cwsmer gyda TGC. Roeddwn i bob amser eisiau dysgu crefft ac rydw i wir wedi mwynhau gweithio allan ar yr offer.

Ar hyn o bryd rwy’n astudio gwaith saer yng ngholeg Llandrillo ac ar y trywydd iawn i gyflawni fy nghymhwyster NVQ lefel 2 ar ddiwedd y flwyddyn academaidd hon.

Rwyf wedi mwynhau’r her o ymgymryd ag amrywiaeth o waith gwahanol, o hongian drysau, gosod sgertin / architrafau a cheginau, i slabiau a phlastro. Rwyf wedi cael cyfle i weithio gyda’r holl weithwyr aml-grefft, ac mae wedi bod yn wych dysgu ganddyn nhw ac rwy’n edrych ymlaen at ddysgu mwy o sgiliau yn ystod fy mhrentisiaeth.”

 

Daniel Porter

Prentis, Cribiniau ac Ystolion

“Rwy’n brentis yn nhîm Cribiniau ac Ystolion. Roeddwn i wedi bod yn gwneud gwaith awyr agored am gyfnod yn nhŷ fy nain a taid ac wedi mwynhau’n fawr. Mi wnes i sylweddoli nad mynd i’r chweched dosbarth oedd y peth i mi a gwelais hysbyseb Tai Gogledd Cymru ar gyfer prentis gweithiwr cynnal a chadw tir, roeddwn i’n gwybod y byddai’n gyfle da i mi.

Felly, ymunais yn syth allan o’r ysgol, ac mae wedi bod yn wych! Rwyf wedi dysgu llawer o sgiliau newydd am gynnal a chadw tiroedd ond hefyd am fywyd. Yn ystod y gaeaf rydym yn torri nôl ar safleoedd, a phob yn ail wythnos rydw i ar waith trwsio sy’n cynnwys amrywiaeth o wahanol dasgau fel ffensio, cwteri a slabio. Mae’n debyg mai ffensio yw fy hoff waith gan fy mod i’n mwynhau gwneud pethau. Yn ystod yr haf rydyn ni’n mynd ymlaen i dorri gwair, sy’n gwneud newid braf o fod yn oer yn y gaeaf.

Rwyf hefyd yn astudio tuag at NVQ lefel 2 mewn garddwriaeth. Mae gen i lawer o hyfforddiant ar y gweill hefyd, ac yn ddiweddar mi wnes i fynd ar gwrs llif gadwyn. Rwy’n gweithio gyda thîm cefnogol iawn, a dw i’n meddwl ein bod ni’n gwneud tîm gwych! ”

 

Eric Bee

Prentis Peiriannydd Nwy

Dechreuodd Eric gyda ni yn ôl ym mis Medi 2019. Mae’n cwblhau ei brentisiaeth mewn peirianneg nwy. Mae wedi bod yn gweithio gyda Jamie Williams ac yn dysgu pob math o wahanol bethau ganddo.

Oherwydd y pandemig mae llawer o’i amser coleg wedi’i symud ar-lein ond mae Eric yn gobeithio gallu dychwelyd i’r coleg i wneud rhywfaint o waith ‘pellhau cymdeithasol’ yn ystod yr wythnosau nesaf.