Troseddau Casineb

Os ydych chi mewn perygl neu os oes argyfwng, yna ffoniwch yr heddlu ar 999 (101 os nad yw’n argyfwng).

Mae gan bob un ohonom yr hawl i fyw heb ofn, gelyniaeth a chael ein brawychu gan eraill ac nid yw’r math hwn o ymddygiad yn dderbyniol. Mae Tai Gogledd Cymru yn disgwyl i breswylwyr fod yn ystyriol o’u cymdogion a’u cymuned, a pheidio â chyflawni, na chaniatáu i’w teulu neu ymwelwyr gyflawni gweithredoedd casineb.

Rydym yn annog dioddefwyr a thystion i gymryd safiad ac adrodd am unrhyw ddigwyddiadau yn ymwneud â chasineb, gan ein bod yn cymryd y rhain o ddifrif.

Beth sy’n cael ei ddynodi fel Trosedd Casineb?

Yn anffodus, nid yw pawb rydym yn eu cyfarfod yn rhannu ein barn, ein gwerthoedd a’n credoau. Gall rhai pobl achosi llawer o ofid trwy dargedu person arall oherwydd eu hunaniaeth. Gall troseddau casineb gynnwys unrhyw beth sy’n amharu ar eich hawl i fyw’n heddychlon wrth i chi fynd o gwmpas eich bywyd a gallant hefyd ddigwydd ar-lein.

Mae trosedd casineb yn drosedd y mae’r dioddefwr (neu rywun arall) yn meddwl sydd wedi digwydd oherwydd:

  • Oed
  • Anabledd
  • Rhyw
  • Hunaniaeth rhyw neu ailbennu rhywedd
  • Statws priodasol neu bartneriaeth sifil
  • Statws beichiogrwydd neu famolaeth
  • Hil, lliw, ethnigrwydd neu genedligrwydd
  • Crefydd neu gred
  • Cyfeiriadedd rhywiol
  • Isddiwylliant amgen

Enghreifftiau o rai mathau o ymddygiad y gellir eu hystyried yn droseddau casineb:

  • Camdriniaeth neu wawdio geiriol
  • Bwlio
  • Ymosodiad corfforol
  • Fandaliaeth a/neu losgi bwriadol
  • Graffiti neu bostio llenyddiaeth sarhaus
  • Ymddygiad bygythiol/cyfathrebu
  • Difrod i eiddo
  • Ystumiau sarhaus

Beth os ydw i’n ddioddefwr neu’n dyst i drosedd casineb?

Gall unrhyw un ddioddef trosedd casineb os ydynt yn cael eu targedu oherwydd pwy ydynt ac os ydych chi wedi dioddef hyn, peidiwch â dioddef yn dawel. Mae trosedd casineb yn drosedd rydym yn eich cynghori i adrodd amdani i’r heddlu ar 999 mewn argyfwng ac ar 101 ar gyfer achosion nad ydynt yn argyfwng.

Os nad ydych am siarad â’r heddlu, gallwch adrodd am drosedd casineb drwy ffonio Crimestoppers am ddim ar 0800 555 111 neu drwy fynd i www.crimestoppers-uk.org i’w chofnodi ar-lein. Nid oes rhaid i chi roi eich enw ac mae’r hyn a ddywedwch yn gyfrinachol ond mae’n anodd ymchwilio’n llawn a gweithredu ar ddigwyddiad heb eich manylion.

Os ydych chi wedi dioddef trosedd casineb, mi fyddant yn dweud wrth ffrind neu aelod o’r teulu y maent yn ymddiried ynddo ac yn eu defnyddio i gael cymorth. Gallwch hefyd ddod o hyd i asiantaethau i’ch helpu i ymdopi ac adfer ar ôl yr hyn sydd wedi digwydd.

Os ydych chi’n gweld neu’n adnabod rhywun sydd wedi’i effeithio gan drosedd casineb, mae’n bwysig eu cefnogi. Gallai hyn fod mor syml â gwneud yn siwr eu bod yn iawn, er mwyn eu cynghori ar sut y gallant roi gwybod am y digwyddiad. Ni ddylai neb deimlo’n unig pan fyddant wedi cael eu cam-drin am fod yn nhw eu hunain. 

Sut mae Tai Gogledd Cymru yn delio â Throseddau Casineb?

Os byddwn yn derbyn adroddiad o drosedd casineb, bydd swyddog yn cysylltu o fewn 1 diwrnod gwaith. Byddwn yn gofyn am y manylion ac yn trafod unrhyw gamau sydd angen eu cymryd ar unwaith. Os ydych am i ni ymchwilio, byddwn yn cyfweld â chi er mwyn cael yr holl fanylion ac yna’n cytuno ar gamau gweithredu i’r dyfodol.

Bydd angen i ni gasglu tystiolaeth er mwyn ein helpu i benderfynu beth i’w wneud ac efallai y byddwn yn gofyn i chi adrodd am y digwyddiad i’r heddlu. Efallai y byddwn yn gweithio gyda nhw i ddatrys y broblem a gallem hefyd gyfweld â thystion eraill.

Drwy gydol yr achos, byddwn yn gofyn i chi roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni am unrhyw ddigwyddiadau perthnasol gan y bydd hyn yn ein cynorthwyo wrth ddilyn yr achos i fyny. Bydd ein hymateb i adroddiadau bob amser yn rhesymol a chymesur a all gynnwys ymyrraeth gynnar, yn ogystal â rhwymedigaethau cyfreithiol.

Gall ein hymchwiliad gymryd ychydig ddyddiau neu ychydig wythnosau, ond byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi wrth i ni fynd yn ein blaenau. Yna byddwn yn penderfynu pa gamau y gallwn eu cymryd, os oes rhai, i atal y broblem, ar sail a oes unrhyw un wedi torri amodau eu cytundeb tenantiaeth.

Byddwn yn rhoi gwybod i chi am ein penderfyniad ac yn cael eich cytundeb i unrhyw gamau yr ydym am eu cymryd. Yn y pen draw byddwn yn cau eich achos. Weithiau nid oes digon o dystiolaeth i gymryd unrhyw gamau ac os felly, byddwn yn trafod hyn gyda chi.

Asiantaethau sy’n darparu cyngor, cymorth a gwybodaeth:

  • Cyngor ar Bopeth – Gallwch ddarganfod pa gymorth y gallwch ei gael os ydych wedi profi trosedd casineb neu ddigwyddiad casineb – gan gynnwys sut i adrodd amdano i’r heddlu yn www.citizensadvice.org.uk neu drwy ffonio Cyngor ar Bopeth (Cymru) ar 0800 702 2020 .
  • Cymorth i Ddioddefwyr – Mae hon yn elusen annibynnol sy’n gweithredu Llinell Gymorth 24/7 a gwasanaeth sgwrsio byw, bob dydd o’r flwyddyn, gan gynnig cymorth emosiynol ac ymarferol arbenigol i unrhyw un sydd wedi bod yn ddioddefwr neu’n dyst. Nid oes rhaid i chi adrodd am drosedd i gael cymorth gan Gymorth i Ddioddefwyr a gallant hefyd helpu i’ch tywys drwy’r system gyfreithiol. Eu gwefan yw www.victimsupport.org.uk neu gellir cysylltu â nhw dros y ffôn ar 0808 16 89 111.