Y Gorlan, Bangor
Stryd Fawr, Bangor, Gwynedd, LL57 1NS
Nodweddion Allweddol
- Fflatiau un ystafell wely hunangynhwysol hawdd i'w rheoli
- wedi’i leoli yn ganolog, yn gyfleus ar gyfer yr holl amwynderau
- Fflat yn hunangynhwysol ac yn cynnwys cegin gydag unedau gosod cyflawn, ystafell ymolchi, ystafell wely a lolfa
- Lifft
- Maes parcio ar y safle
- Lolfa gymunedol a gardd
- Ystafell golchi dillad
- Chyfleuster salon trin gwallt
- Ystafell wely ar gyfer ymweliad gan ffrindiau a theulu
- Warden profiadol Llun – Gwener
- Larwm argyfwng 24 awr a system mynediad trwy ddrws diogel
Disgrifiad Llawn
Wedi’i leoli o fewn dinas Bangor, mae Y Gorlan yn cynnig 31 o fflatiau un ystafell wely hunangynhwysol hawdd i’w rheoli, ac maent ar gael i’w rhentu i rai sydd dros 60 oed.
Mae wedi’i leoli yn ganolog, yn gyfleus ar gyfer yr holl amwynderau, siopau, cyfleusterau gofal iechyd, cludiant cyhoeddus a gweithgareddau hamdden , gan ei wneud yn ddewis delfrydol ar gyfer byw’n annibynnol.
Mae pob fflat yn hunangynhwysol ac yn cynnwys cegin gydag unedau gosod cyflawn, ystafell ymolchi, ystafell wely a lolfa. Mae’r cynllun yn elwa o lifft, maes parcio ar y safle, lolfa gymunedol, gardd, ystafell golchi dillad a chyfleuster salon trin gwallt.
Mae yna hefyd ystafell hwylus i ffrindiau a theulu sy’n ymweld ac sydd ar gael am dâl bychan.
Caiff pob eiddo ei gefnogi yn ystod yr wythnos gan Warden profiadol sy’n gallu cynnig help llaw a chefnogaeth i helpu pan fyddwch ei angen. Mae pob un o’n tai hefyd yn cael eu cefnogi gan larwm argyfwng 24 awr a system mynediad drws diogel.
Mae gweithgareddau cymdeithasol dewisol hefyd yn cael eu cynnig, gan roi cyfle i chi fwynhau hobïau newydd neu i gymdeithasu.
Taith arlein
Ewch ar daith o’r Gorlan eich hun trwy glicio yma https://360.ht/iframe/Y1UT6Z0
Tystysgrifau Perfformiad Ynni (EPCs)
Dim EPC ar gaelCynllun Llawr
Dim cynllun llawr ar gaelSut i wneud cais
Os hoffech gael unrhyw wybodaeth bellach am Y Gorlan neu unrhyw un o'n heiddo eraill ar gyfer rhai dros 55 oed, cysylltwch â ni ar 01492 572 727.
Fel arall, cysylltu hefo Rowena Maxwell, Swyddog Tai Pobl Hyn [email protected] 01492 563274.