Cae Garnedd, Bangor

Cae Garnedd, Penrhosgarnedd, Bangor yw trydydd cynllun Gofal Ychwanegol Tai Gogledd Cymru, ein cynllun cyntaf o’r fath yng Ngwynedd mewn partneriaeth gyda Chyngor Gwynedd.

Mae’r cynllun wedi’i anelu at bobl sydd dros 55 oed ac sydd ag anghenion tai a gofal. Mae’n gyfle gwych i gael budd o ffordd o fyw annibynnol a diogel, wedi’i ategu gan ofal a chymorth sy’n hyblyg ac wedi’i deilwra at eich anghenion.

Fflatiau o ansawdd, wedi’u cynllunio’n dda

Mae Cae Garnedd wedi’i adeiladu i ddyluniad cyfoes o ansawdd eithriadol a safonau cynaliadwyedd uchel. Mae 42 o fflatiau hunangynhwysol gyda 2 ac 1 ystafell wely. Mae wedi’i gynllunio er mwyn eich galluogi i barhau i fyw’n annibynnol yn eich cartref eich hun ac i wneud bywyd yn haws.

Dyma rai o’r cyfleusterau:

  • Cegin wedi’i gosod yn llawn, ystafell ymolchi a lolfa
  • Cawod mynediad gwastad
  • Lifftiau
  • Hygyrch i gadeiriau olwyn
  • System mynediad drws diogel
  • Digonedd o ofod parcio ceir
  • Gofal a chefnogaeth sydd ar gael 24 awr
  • Mannau cymunedol – nifer o lolfeydd preifat, ystafell fwyta/bwyty, ardal patio allanol

Fideo Cae Garnedd

Gwyliwch y fideo yma i glywed beth mae preswylwyr yn feddwl o Cae Garnedd:

 

Mae hyblygrwydd llwyr o ran y gofal a ddarparwn. Rydym yn annog preswylwyr i fyw bywyd llawn a gweithgar a bydd cynllun personol o ofal a chymorth, pe bai ei angen, yn cael ei deilwra i’ch helpu i fyw mor annibynnol â phosibl yn y ffordd a ddymunwch. Mae’r tîm gofal profiadol ar y safle 24 awr y dydd ac mae cyswllt larwm cymunedol gyda chefnogaeth 24 awr hefyd ar gael.

Ffordd o Fyw

Mae gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden yn bwysig iawn i les pawb. Yng Nghae Garnedd, mae yna amrywiaeth trawiadol o gyfleusterau i’w mwynhau, a rhaglen reolaidd o ddigwyddiadau sy’n darparu ar gyfer amrywiaeth o ddiddordebau.

Mae’r datblygiad hefyd yn cynnig:

  • Salon gwallt
  • Ystafell ymolchi gyda chymorth ac ystafell maldod
  • Ystafell golchi dillad
  • Ystafell wely gwadd ar gyfer teulu a ffrindiau
  • Storfa Sgwteri

Bydd y cynllun hyfryd yma’n darparu amgylchedd gwych i wneud ffrindiau newydd, croesawu eich teulu a’ch ffrindiau, neu i ymlacio a mwynhau eich amgylchedd.

Y Gorlan, Bangor

Wedi’i leoli o fewn dinas Bangor, mae Y Gorlan yn cynnig 31 o fflatiau un ystafell wely hunangynhwysol hawdd i’w rheoli, ac maent ar gael i’w rhentu i rai sydd dros 60 oed.

Mae wedi’i leoli yn ganolog, yn gyfleus ar gyfer yr holl amwynderau, siopau, cyfleusterau gofal iechyd, cludiant cyhoeddus a gweithgareddau hamdden , gan ei wneud yn ddewis delfrydol ar gyfer byw’n annibynnol.

Mae pob fflat yn hunangynhwysol ac yn cynnwys cegin gydag unedau gosod cyflawn, ystafell ymolchi, ystafell wely a lolfa. Mae’r cynllun yn elwa o lifft, maes parcio ar y safle, lolfa gymunedol, gardd, ystafell golchi dillad a chyfleuster salon trin gwallt.

Mae yna hefyd ystafell hwylus i ffrindiau a theulu sy’n ymweld ac sydd ar gael am dâl bychan.

Caiff pob eiddo ei gefnogi yn ystod yr wythnos gan Warden profiadol sy’n gallu cynnig help llaw a chefnogaeth i helpu pan fyddwch ei angen. Mae pob un o’n tai hefyd yn cael eu cefnogi gan larwm argyfwng 24 awr a system mynediad drws diogel.

Mae gweithgareddau cymdeithasol dewisol hefyd yn cael eu cynnig, gan roi cyfle i chi fwynhau hobïau newydd neu i gymdeithasu.

Taith arlein

Ewch ar daith o’r Gorlan eich hun trwy glicio yma https://360.ht/iframe/Y1UT6Z0