Mae Tai Gogledd Cymru wedi derbyn cydnabyddiaeth gwobr Arian ar gyfer cynaliadwyedd ei chartrefi mewn cynllun gwobrau amgylcheddol nodedig. Cynllun meincnodi yw SHIFT (Mynegai Cartrefi Cynaliadwy ar gyfer Yfory), a gymeradwywyd gan y llywodraeth, sy’n dadansoddi perfformiad amgylcheddol cymdeithasau tai.
Roedd y broses asesu yn cwmpasu pob agwedd ar weithrediad Tai Gogledd Cymru, gan gynnwys swyddfeydd, prynu, adeiladu o’r newydd, eiddo presennol a mwy. Cafwyd cwestiynau wedi eu pwysoli yn rhan o’r broses oedd yn mesur agweddau fel effeithlonrwydd ynni, defnyddio dŵr, gwastraff ac addasu i newid yn yr hinsawdd.
Dyma’r flwyddyn gyntaf i Tai Gogledd Cymru gael ei hasesu ac mae’n gam pwysig ymlaen ar y daith i ddod yn sefydliad gwirioneddol gynaliadwy. Derbyniodd Richard Snaith, Cydlynydd Cynaliadwyedd ar gyfer Tai Gogledd Cymru y wobr yn y Gynhadledd Cartrefi yn Olympia, Llundain ar 26 Tachwedd. Meddai Richard:
“Mae llwyddo i gael gwobr Arian yn ein blwyddyn gyntaf yn gyflawniad mawr i Tai Gogledd Cymru. Mae’n adlewyrchu ein hymrwymiad i gynaliadwyedd ac yn ein helpu i feincnodi yn erbyn cymdeithasau tai eraill. Mae hefyd yn rhoi cynllun i ni weithio iddo, gan roi cyfres glir o gamau gweithredu i ni wrth symud ymlaen.”
Ychwanegodd Paul Diggory, Prif Weithredwr Tai Gogledd Cymru:
“Mae’n wych cael ein cydnabod fel hyn – mewn sawl ffordd mae ansawdd y cartrefi rydym yn eu darparu a’u heffeithiau amgylcheddol yn ddwy ochr i’r un geiniog. Gyda rhai yn rhagweld y gallai biliau ddyblu yn y degawd nesaf, buddsoddi i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi yw’r ffordd orau i amddiffyn preswylwyr. Wrth gwrs gallwn bob amser wneud mwy, ond mae’n wych bod yn rhan o rwydwaith o gymdeithasau tai blaenllaw sy’n gwthio safonau i fyny.”
Dywedodd Andrew Eagles, Rheolwr Gyfarwyddwr Cartrefi Cynaliadwy, sy’n gweinyddu’r cynllun:
“Mae’r gwobrau hyn yn ymwneud â chydnabod cynnydd a chyflawniad o ran gwella ansawdd cartrefi preswylwyr. Dylai Tai Gogledd Cymru fod yn falch o’r camau y mae wedi eu cymryd i wella – yn enwedig ar adeg pan fo arian gan y llywodraeth mor gyfyng. Mae’n bwysig cofio, pan fyddwn yn sôn am ‘berfformiad amgylcheddol’, nad hyw fath o fathodyn haniaethol ‘braf-i’w-gael’ ydyw. I breswylwyr, mae buddsoddi mewn pethau fel hyn yn golygu biliau is – yn ogystal â gwell ansawdd bywyd. Mae aelodau SHIFT ar flaen y gad o ran cynaliadwyedd. Maent wedi ymrwymo i gael eu hasesu’n annibynnol a gweithio i leihau eu heffeithiau.”