Cenhadaeth
Trawsnewid bywydau gyda chartrefi gwych, gwasanaethau a chymorth o ansawdd.
Gweledigaeth
Gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl, trwy ddarparu cartrefi i fod yn falch ohonynt a chreu cymunedau lle gallant ffynnu.
Gwerthoedd
Ein gwerthoedd a’n safonau yw’r hyn sy’n ein gwneud ni’n Gymdeithas Tai Gogledd Cymru. Dyma beth sy’n rhoi ystyr i ni. Bydd pob un o’n pobl yn gweithio tuag at y gwerthoedd hyn, sydd gyda’i gilydd yn disgrifio cymeriad y sefydliad. Ein gwerthoedd sy’n gyrru ein gwaith o wneud penderfyniadau bob dydd, ac mae’r ffordd byddwn yn ymddwyn yn ymgorffori ein gwerthoedd.
- Agored… rydym yn dryloyw yn y ffordd rydym yn gweithio ac yn gwneud penderfyniadau.
- Ymddiriedaeth… byddwn yn gwneud yr hyn rydym yn addo ei wneud. Byddwn yn ymddwyn yn onest a chywir.
- Ymatebol…tuag at anghenion a dyheadau ein cwsmeriaid, ein staff a’n partneriaid.
- Tegwch… rydym yn agored i bawb, ond yn cau allan rhagfarn. Byddwn yn gweithredu’n bendant i hyrwyddo cydraddoldeb ac yn parchu amrywiaeth.
- Dysgu…byddwn yn chwilio am ffyrdd gwell yn y dyfodol. Byddwn yn cydnabod pan fyddwn yn gwneud camgymeriadau, ac yn dysgu oddi wrthynt. Byddwn yn edrych ymlaen at ddysgu oddi wrth eraill.