Gweithiwr Rhyddhad (Dydd)

Dyddiad Cau: 6 Mai 2024 Dyddiad Cyfweld: 17 Mai 2024
Cyflog: Cyfradd cyflog a delir ar y Cyflog Byw REAL o £12.00 yr awr
Lleoliad: Hosteli ym Mae Colwyn a Bangor.
Teip: Parhaol, Tai â Chymorth
Oriau: Mae cyfleoedd gwaith ar gael i ddarparu gwasanaeth ad hoc i'r timau yn ein hosteli ym Mae Colwyn a Bangor.

Proffil Rôl
Ffurflen Cais

Gweithiwr Rhyddhad (Dydd)

Cyfle gwych i ‘gael eich troed yn y drws’ mewn swydd gyda hyblygrwydd o gwmpas oriau a weithir.

Byddwch yn cael eich cefnogi i ddatblygu eich gwybodaeth, eich sgiliau a’ch profiad fel rhan o sefydliad blaengar sydd â diwylliant cynhwysol. Mae cyfleoedd gwaith ar gael i ddarparu gwasanaeth ad hoc i’r timau yn ein hosteli ym Mae Colwyn a Bangor.

 

Ein Sefydliad

Yma yn Tai Gogledd Cymru, rydym yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl bob dydd. Os ydych wedi ymrwymo i’n helpu i gyflawni hyn, byddwn yn sicrhau ein bod yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i’ch bywyd hefyd. Gadewch i ni weithio gyda’n gilydd i adeiladu ar 50 mlynedd o ddarparu cartrefi o safon ar draws Gogledd Cymru, buddsoddi mewn cymunedau a chefnogi’r rhai sy’n wynebu digartrefedd.

Fel cyflogwr Buddsoddwyr Safon Aur mewn Pobl, rydym wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd lle gall ein pobl ffynnu a bod yn falch o’u gwaith, mewn diwylliant sy’n eu galluogi i gyflawni eu potensial a theimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi am eu cyfraniad. Yn 2021, daethom yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd ac yn 2023 cawsom ein rhestru fel cyflogwr ‘rhagorol i weithio iddo’ gan achrediad Best Companies.

 

Y Rôl – Gweithiwr Rhyddhad (Dydd)

Fel Gweithiwr Rhyddhad byddwch yn chwarae rhan hanfodol wrth wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl agored i niwed a digartref, trwy gefnogi rhedeg ein hosteli naill ai ym Mangor neu ym Mae Colwyn, gan gyfrannu at ddarparu cymorth effeithiol o ddydd i ddydd i’r preswylwyr. Bydd eich prif ddyletswyddau yn cynnwys:

  • Diogelu iechyd a lles corfforol ac emosiynol pobl agored i niwed a digartref sy’n byw yn yr hostel
  • Cyfrannu at drefnu a darparu ystod o weithgareddau ymgysylltu a chyfranogiad i hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol ymhlith preswylwyr
  • Sicrhau bod tasgau cadw tŷ yn cael eu cyflawni’n rheolaidd yn yr hostel
  • Cynnal cofnodion hostel a ffeiliau preswylio cywir
  • Ymateb a rheoli unrhyw ddigwyddiadau yn yr hostel yn briodol

 

Y Pecyn

  • Cyfradd cyflog a delir ar y Cyflog Byw REAL o £12.00 yr awr
  • Cefnogaeth gydag astudiaethau pellach a chyfleoedd datblygu gyrfa
  • Cynllun pensiwn cyfrannol hael

 

Ein Gofynion – Gweithiwr Rhyddhad (Dydd)

  • Sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid gwych, yn ddelfrydol gyda phrofiad o weithio mewn gwasanaeth cwsmeriaid / rôl cymorth wyneb yn wyneb
  • Y gallu i gyfathrebu yn Gymraeg, neu ymrwymiad i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg (gyda’n cefnogaeth)
  • Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar da
  • Y gallu i addasu a gweithio’n effeithiol gyda chydweithwyr
  • Ymwybyddiaeth o anghenion cymorth pobl agored i niwed gyda’r gallu i weithio ar eich pen eich hun gyda hyder a barn dda
  • Gwybodaeth weithredol dda o Microsoft Word, Excel ac Outlook

 

Yn Tai Gogledd Cymru rydym wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles defnyddwyr gwasanaeth. Rhaid i chi fod yn barod i’n sefydliad gynnal gwiriad datgeliad DBS sylfaenol.

Mae Tai Gogledd Cymru yn sefydliad cyfle cyfartal sy’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr o gefndiroedd amrywiol yn arbennig. Bydd pob ymgeisydd Du, Asiaidd ac o leiafrif ethnig, yn ogystal ag ymgeiswyr anabl sy’n bodloni ein meini prawf hanfodol yn sicr o gael cyfweliad.

Datganiad Preifatrwydd
Fel rhan o’n proses recriwtio, mae Tai Gogledd Cymru (TGC) yn casglu ac yn prosesu data personol sy’n ymwneud ag ymgeiswyr am swyddi. Data personol yw unrhyw ddata neu wybodaeth y gellir ei defnyddio i adnabod unigolyn neu ddata a fyddai, o’i gymysgu â gwybodaeth arall a gedwir am yr un unigolyn, yn ei gwneud yn amlwg pwy yw gwrthrych y data. Mae TGC wedi ymrwymo i fod yn dryloyw ynghylch sut y mae’n casglu ac yn defnyddio’r data hwnnw ac i gyflawni ei rwymedigaethau diogelu data. I weld ein Hysbysiad Preifatrwydd Ymgeisydd Swydd, CLICIWCH YMA