Beth rydym yn neud i’ch helpu

Rydym yn dallt bod hyn yn hynod o amser anodd i chi, rydym yma i’ch cefnogi a’ch amddiffyn gymaint ag y gallwn.

Rhai o’r pethau rydyn ni’n eu gwneud i helpu i’ch amddiffyn chi, ein staff a’r gymuned yw:

  • Cau ein holl swyddfeydd
  • Mae holl staff sydd yn gallu, yn gweithio o adra
  • I ddechrau, gwnaethom ostwng lefel yr Atgyweiriadau rydym yn ei wneud. Fodd bynnag, rydym bellach yn cario ein Hatgyweiriadau a’n gwasanaethu lle mae’n ddiogel gwneud hynny. Rydym wedi rhoi mesurau ar waith i sicrhau diogelwch pawb.

  • Pan ddaw Cynnal a Chadw i’ch cartref byddwn yn ymarfer rheolau ymbellhau cymdeithasol ac yn gwisgo offer amddiffynnol perthnasol
  • Pan dderbynnir cefnogaeth wyneb yn wyneb fel arfer rydym yn cefnogi tenantiaid mewn ffyrdd eraill
  • Rydym yn annog pob tenant sydd yn hunan-ynysu i roi gwybod i ni wrth gysylltu â ni
  • Wedi canslo unrhyw ddigwyddiadau a gynlluniwyd nes y rhoddir rhybudd pellach

Galwadau Lles

Rydym wedi bod yn cysylltu â phob tenant i weld sut ydych  ac i helpu gyda’ch pryderon, gan ddechrau gyda’r rhai mwyaf agored i niwed. O ganlyniad rydym wedi bod yn helpu tenantiaid gyda’u siopa, nol presgripsiynau a helpu gydag ychwanegiadau mesuryddion trydan/ nwy. Os oes angen unrhyw help gennym ni, cysylltwch â ni.

Mae ein Tîm Rhenti hefyd wedi bod yn cysylltu â’n tenantiaid, gan gynnig eu cyngor ar unrhyw newid mewn amgylchiadau. Os nad ydych yn siŵr pa gymorth ariannol sydd ar gael, edrychwch ar y dudalen hon. Gallwch gysylltu â’r Tîm Rhenti ar [email protected] neu ffonio 01492 572727

 

Cadw i fynnu ar ddiweddaraf

Mae’n bwysig eich bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am ganllawiau diweddaraf y llywodraeth; y lle goraf am hyn yw gwefan y Llywodraeth.

 

Cysylltu â ni

Gan fod ei swyddfeydd bellach ar gau, y ffordd gorau i gysylltu â ni ydi trwy ffôn neu e-bost:

Ffôn : 01492 572727

Ebost: [email protected]

Efallai y bydd ymateb i gyfathrebu ysgrifenedig trwy’r gwasanaeth post yn cymryd mwy o amser i ni oherwydd bod y swyddfa ar gau. 

 

Diweddarwyd y wybodaeth hon ar 6ed Hydref 2020. I gael yr wybodaeth ddiweddaraf, ewch i wefan Llywodraeth y DU https://www.gov.uk/coronavirus