Coronafirws a’ch lles

Efallai eich bod yn poeni bod gennych coronafirws. Y symptomau o coronafirws yw:

  • tagiad
  • tymheredd uchel
  • prinder anadl

Os ydych yn amau eich bod gennych coronafirws rhaid ichi ‘Hunan-ynysu’ ar unwaith a defnyddio’r gwasanaeth coronafirws 111 https://111.nhs.uk/covid-19/.

 

Eich lles iechyd meddwl

Mae eich iechyd meddwl yn hynod o bwysig yn ystod yr amser yma. Isod mae yna gwpwl o linciau i adnoddau da all eich helpu ychydig:

 

Cadw yn actif

Mae’n bosib cadw’n actif yn ystod hyn. Gallwch ddefnyddio eich ymarfer corf unwaith y diwrnod i gerdded, rhedeg neu fynd ar feic fel enghraifft. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw 2m ar wahân i bobl nid ydych yn byw gyda.

Mae yna hefyd nifer o ddosbarthiadau ffitrwydd ar lein gallwch ei wneud.

 

Cadw plant yn hapus

Bydd llawer yn gorfod gweithio o adra yn ogystal â didynnu plant. Isod mae ychydig o syniadau i adnoddau am ddim i’w diddanu yn ystod eu hamser adra:

  • Addysg Gorfforol gyda Joe Wicks – ar YouTube yn ystod yr wythnos am 9am, ond gallwch wylio ar YouTube ar unrhyw adeg (mae rhai i oedolion hefyd os ydych chi’n ddewr!)
  • Bywyd Gwyllt gyda Steve Backshall – ar Facebook bob dydd am 9.30am yn ateb eich holl gwestiynau bywyd gwyllt, bioleg, cadwraeth, daearyddiaeth ac archwilio.
  • Gwyddoniaeth gyda Maddie Moate – ar YouTube yn yr wythnos 11am. Mae Maddie a Greg yn sgwrsio am wyddoniaeth a natur.
  • Dawnsio gydag Oti Mabuse – ar Facebook bob dydd am 11.30am, ond gallwch weld y dosbarth unrhyw adeg.
  • Mathemateg gyda Carol Vordeman – Mynediad am ddim i’w gwefan mathemateg www.themathsfactor.com
  • Cerddoriaeth gyda Myleene Klass – ar YouTube Ddwywaith yr wythnos, ond gallwch weld unrhyw adeg ar YouTube
  • Amser Stori gyda David Walliams – Stori am ddim bob dydd am 11am ar ei wefan www.worldofdavidwalliams.com

Mae Twinkle hefyd yn wefan gwych arall, gydag adnoddau am ddim i helpu rhieni gydag addysg gartref www.twinkl.co.uk/resources/parents/free-resources-parents/freeresources-for-parents-free-resources-parents