Cymdeithas Preswylwyr

Mae Cymdeithas Preswylwyr yn grŵp o bobl sy’n byw ar stad neu yn yr un bloc ac yn dod at ei gilydd fel corff i sôn am bethau sy’n effeithio ar lawer ohonynt.

Pan fod angen Cymdeithas Preswylwyr?

Gall ffurfio Cymdeithas Preswylwyr ddod â llawer o fanteision i chi a’ch cymdogion:

  • Mae’n gallu datblygu ysbryd o gymuned
  • Bydd unigolion yn mwynhau cymryd rhan fwy yn eu cymuned
  • Mae’n gallu gwella cyfleoedd i bobl gyfarfod yn gymdeithasol
  • Bydd pobl yn cael teimlad o gyflawni rhywbeth ac o falchder mewn cymuned maen nhw wedi’i helpu i’w hadeiladu
  • Cynrychioli barn y preswylwyr gyda’i gilydd
  • Helpu i wella ansawdd bywyd i bob aelod o’r gymuned
  • Cynrychioli barn pobl leol
  • Cael eu cydnabod fel grŵp sydd wedi’u hethol yn ddemocrataidd a chael mwy o ddylanwad
  • Codi arian i wella cyfleusterau lleol, fel gerddi cymunedol neu lefydd chwarae

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dechrau Cymdeithas neu Grŵp Preswylwyr, bydd Tai Gogledd Cymru yn eich cefnogi ac yn darparu hyfforddiant. Gallwn gynnig cymorth gyda chostau dechrau’r Gymdeithas.

Am fwy o wybodaeth am sefydlu Cymdeithas neu Grŵp Preswylwyr cysylltwch ag Iwan Evans ar 01492 563232 neu anfonwch e-bost at [email protected]