Rydym eisiau rhoi ein preswylwyr wrth galon popeth fyddwn yn ei wneud… dewch i Gymryd rhan mewn pethau a rhoi eich barn ar sut mae Tai Gogledd Cymru’n cael ei redeg!
Pam ddylwn i gymryd rhan mewn pethau?
- Er mwyn cael dweud eich barn ar wasanaethau tai a chwarae rhan mewn penderfyniadau sy’n effeithio ar eich cartref chi a’r ardal rydych yn byw ynddi
- Gallwch ddysgu sgiliau newydd
- Gallwch gyfarfod preswylwyr eraill a chymryd rhan mewn gweithgareddau newydd – ac efallai hyd yn oed gael hwyl!
- Gweld gweithredu’n digwydd ar y syniadau a’r pryderon rydych wedi’u codi, a hynny o fudd i wahanol bobl
- Dod i adnabod staff Tai Gogledd Cymru a chyfarfod y bobl rydych wedi clywed eu henwau
Sut i gymryd rhan
Mae yna nifer o wahanol ffyrdd gallwch gymryd rhan, gwelwch syniadau isod. Am fwy o wybodaeth cysylltwch ag Iwan Evans ar [email protected] neu 07884866930.

Iwan Evans
Cydlynydd Cyfranogiad Preswylwyr
[email protected]
01492 563232