Fforwm Tenantiaid

Ymunwch â’n Fforwm Tenantiaid newydd a dweud eich dweud ar sut mae Tai Gogledd Cymru yn cael ei redeg!

Lawr lwytho poster

Bydd y Fforwm yn cyfarfod yn rheolaidd efo staff Tai Gogledd Cymru, ac yn rhoi cyfle i chi gael gwybodaeth, dylanwadu ar ein penderfyniadau, a chryfhau ein gwasanaethau. Ein bwriad yw neilltuo pob cyfarfod i bwnc penodol, gan ganiatáu i aelodau ddysgu mwy am Tai Gogledd Cymru, a rhoi mewnbwn ac adborth i wella’r gwasanaethau rydyn ni’n eu darparu.

Mae’r cyfarfodydd yn cael eu cynnal ar-lein ar hyn o bryd, a gallwn fod yn hyblyg gydag amser y cyfarfodydd er mwyn ystyried eich amgylchiadau.

Dywed Bethan, sy’n aelod o’r fforwm:

“Mae bod yn rhan o’r fforwm tenantiaid yn rhoi llais i ni – weithiau efallai y bydd gan Tai Gogledd Cymru fel landlord flaenoriaethau gwahanol a systemau a allai anwybyddu’r hyn sydd ei angen arnom ni, felly mae ein mewnbwn yn helpu i ddatblygu’r darlun ehangach. Rydyn ni’n grŵp o denantiaid o wahanol leoliadau ac oedran, ac mae’r adborth rydyn ni’n ei roi yn helpu Tai Gogledd Cymru i weld yr effaith ar y tenant er mwyn gallu datblygu gwell profiad tenant i eraill.”

Mwy o wybodaeth

I ymuno, cofrestru diddordeb neu ddysgu mwy am y Fforwm Tenantiaid, cysylltwch ag Iwan Evans ar 01492 563232 neu [email protected]