Mae’r Grŵp Ymateb Cyntaf yn gronfa ddata o trigolion a defnyddwyr gwasanaeth sydd â diddordeb mewn bod yn ‘ddarllenwyr’ taflenni, ffurflenni, polisïau ayyb. a rhoi sylwadau arnynt.
Trwy fod yn aelod, byddwch yn gallu cymryd rhan yn achlysurol mewn arolygon, grwpiau ffocws, a chlywed am ffyrdd newydd o gymryd rhan pan fydd y rheiny’n datblygu.
Mae hwn yn gyfle perffaith os ydych eisiau cael dweud eich barn a dylanwadu, ond ddim yn gallu ymrwymo i fynd yn rheolaidd i gyfarfodydd wyneb yn wyneb, fel y Fforwm Trigolion.
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau neu eisiau dod yn aelod o’r Grŵp Ymateb Cyntaf, cysylltwch ag Iwan Evans ar 01492 563232 neu anfonwch e-bost at [email protected].