Gwasanaeth Allgymorth ac Ailsefydlu i Bobl Ddigartref

Byddwn yn cefnogi pobl sydd mewn sefyllfa fregus ac yn agored i niwed trwy ddarparu cyngor ar dai a chefnogaeth, er mwyn iddynt fedru dal gafael ar eu lle byw.

Bydd ein gwasanaeth Allgymorth ac Ailsefydlu yn estyn allan i helpu pobl sy’n agored i niwed trwy ddarparu lle i fyw a chyngor ar gyfer ailsefydlu eu hunain. Byddwn yn cefnogi pobl sydd ag anghenion cymhleth, ac yn gweithio gyda phobl ddigartref ar y stryd sy’n cael trafferth i gael tenantiaeth ac i ddal gafael ar denantiaeth wedyn.

Byddwn yn gweithio o gwmpas eich angen chi am gefnogaeth ac yn adolygu’n rheolaidd i weld beth ydych ei angen a gwneud yn sicr y gallwch gadw eich tenantiaeth.

Rydym yn darparu cefnogaeth a chyngor, ac mae gennym bresenoldeb rheolaidd mewn sesiynau galw heibio ac yn bartneriaid cyfeirio at fanciau bwyd lleol. Gellir darparu darpariaethau brys yn dibynnu ar yr amgylchiadau.

Dyma beth allwn ni ei gynnig i chi:

  • Cymorth i ddod yn hyderus yn rheoli eich bywyd
  • Cymorth i ddod yn hyderus yn rheoli eich arian trwy gadw at gyllideb
  • Cefnogaeth i gael gofal iechyd a gofal cymdeithasol
  • Cefnogaeth i gysylltu gyda sefydliadau eraill sy’n rhoi cefnogaeth a chyngor
  • Cefnogaeth i gael addysg, cyflogaeth, hyfforddiant a chyfleoedd i wneud gwaith gwirfoddol
  • Cefnogaeth i ddod yn rhan o gymuned ehangach a’ch annog i ymuno gyda grwpiau a rhwydweithiau
  • Cefnogaeth i wneud cais am le i fyw ac i gysylltu gyda landlordiaid a hosteli
  • Cefnogaeth i’ch paratoi i symud ymlaen i’ch lle byw eich hunan
  • Cefnogaeth gyda threfnu gwasanaethau fel nwy a thrydan.

Am fwy o wybodaeth ffoniwch ni ar 01492 572727 neu e-bostio [email protected].