Gwasanaethau Digartrefedd

Mae gan Tai Gogledd Cymru nifer o Wasanaethau Digartrefedd a all eich helpu os ydych yn ddigartref, neu mewn perygl o fod yn ddigartref.

Mae ein Tîm Adsefydlu ac Allgymorth wrth law i roi cyngor a chymorth ar dai mewn chwilio a chynnal llety. Rydym yn cefnogi pobl sydd ag anghenion cymhleth ac yn gweithio gyda digartref y stryd sy’n cael anhawster dod o hyd a chynnal eu tenantiaeth.

Mae gennym hefyd hosteli i’r digartref ar draws Gogledd Cymru sy’n darparu cymorth i helpu pobl sy’n agored i niwed i fyw’n annibynnol a symud ymlaen i’w llety eu hunain. Mae hostel Santes Fair ym Mangor hefyd yn cynnig cyngor, cefnogaeth ac, mewn amgylchiadau eithafol, maent yn cynnig darpariaethau brys i’r rhai sy’n ddigartref ar y stryd, mewn cartref bregus neu mewn perygl o golli eu tenantiaeth/ llety.

Os ydych chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod yn ddigartref, neu mewn perygl o fod yn ddigartref, cysylltwch â ni drwy e-bostio [email protected], ymweld â’n swyddfa ym Mangor neu ffonio 01492 572727.