Rhoddion

Lawrlwytho poster
Lawrlwytho poster

Yn ogystal â chynnig llety i’r digartref mae hostel Santes Fair a’r Tîm Allgymorth ac Adsefydlu yn cynnig gwasanaeth giât ym Mangor, gan weithio gyda rhai o bobl digartref y stryd nad ydym yn gallu darparu llety ar eu cyfer.

Mae’r gwasanaeth yn darparu cefnogaeth hanfodol er mwyn helpu’r digartref i aros yn gynnes a sych, gan gynnig bwyd, eitemau dillad a darpariaethau gwersylla argyfwng iddynt fel pebyll a sachau cysgu.

Rydym yn dibynnu’n helaeth ar roddion gan unigolion a busnesau er mwyn gallu helpu i gadw’r gwasanaeth i fynd. Os hoffech helpu, byddem yn gwerthfawrogi’r eitemau canlynol yn fawr:

  • Cyfarpar Gwersylla: Pebyll, sachau cysgu
  • Eitemau dillad o ansawdd da: Hetiau, menig, sanau, sgarffiau, cotiau, dillad isaf
  • Bwyd: Unrhyw eitem mewn tuniau, cig, sawsiau pasta, creision, bisgedi, grawnfwyd a bariau grawnfwyd

Dylai unrhyw un sy’n dymuno gwneud cyfraniad alw heibio Hostel Santes Fair ar Lôn Cariadon, Bangor, neu ffonio 01248 362211 i drafod ymhellach.