Cynllun Cymdogaeth – Ardal Llandudno

Mae Tai Gogledd Cymru yn rheoli dros 560 o gartrefi yn Ardal Llandudno sy’n cynnwys Llandudno, Deganwy a Chyffordd Llandudno. Mae’r ystod o eiddo yn dai anghenion cyffredinol a thai â chymorth yn ogystal â chynllun pobl hŷn yn Llandudno. Rydym yn profi galw mawr am eiddo yn yr ardal hon oherwydd ei leoliad a chyfleoedd cyflogaeth, yn enwedig yn yr haf.