Cynllun Cymdogaeth – Conwy

Mae Tai Gogledd Cymru yn rheoli tua 300 o gartrefi yng Nghonwy ac mae’r rhain yn gymysgedd o dai a fflatiau. Mae’r gymdogaeth yn cynnwys eiddo yn Llanfairfechan, Penmaenmawr, tref Conwy, ac i lawr dyffryn Conwy. Mae gennym lawer o eiddo tai cyffredinol, yn ogystal ag eiddo tai â chymorth a chynllun gofal ychwanegol.