Gwella eich cartref

Mae’n rhaid i Tai Gogledd Cymru gynnal ansawdd ein cartrefi yn unol â Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC), safon ansawdd cenedlaethol ar gyfer cartrefi a bennwyd gan Lywodraeth Cymru.

Wrth i’ch cartref fynd yn hŷn efallai y bydd angen i ni newid neu wella elfennau fel ystafelloedd ymolchi, ceginau a ffenestri gwydr dwbl i sicrhau eu bod yn cyrraedd y safon honno.

Bob blwyddyn rydym yn cynllunio pa rai o’n cartrefi y bydd yn derbyn gwaith amnewid neu wella, oherwydd eu hoedran a’u cyflwr. Os ydych yn disgwyl cael gwaith wedi’i wneud ar eich cartref byddwn yn rhoi gwybod i chi beth rydym yn ei gynllunio a phryd y mae’n debygol o ddigwydd.

Gallwch weld os mae eich cegin neu ystafell molchi yn cael ei adnewyddu gan fynd i FyTG. Nodwch fod y dyddiadau yma yn destun newid.