Trwsio a Chynnal a Chadw

Yn Tai Gogledd Cymru, rydym yn deall y bydd pethau weithiau yn treulio neu’n torri yn eich cartref. Mae gennym Dîm Gwaith Trwsio ymroddedig sydd yma i’ch helpu pan fydd angen i chi roi gwybod am waith trwsio.

Ar y tudalennau hyn, cewch wybod sut i adrodd am waith trwsio, pa mor gyflym y dylai eich gwaith trwsio gael ei gwblhau, a pha waith trwsio rydych chi’n gyfrifol amdanynt.

Mae’n bwysig i ni eich bod chi, eich teulu a’ch cymdogion yn byw’n ddiogel yn eich cartref. Rydym yn cynnig cyngor ac arweiniad ar sut i wneud yn siŵr eich bod yn aros yn ddiogel yn eich cartref.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu licio rhoi adborth am y gwasanaeth, gallwch gysylltu â’ Gwasanaeth Cwsmeriaid ar 01492 572727 neu anfonwch e-bost at [email protected].