Diogelwch yn eich cartref

Rydym ni’n cymryd diogelwch yn ddifrifol iawn. Mae’n bwysig i ni eich bod chi a’ch teulu yn gallu byw’n ddiogel yn eich cartref.

Mae cyngor a chyfarwyddyd i’w weld isod ar rai o’r pethau i’w hystyried er mwyn gwneud yn sicr eich bod yn ddiogel yn eich cartref.

Diogelwch nwy

Rydym yn gyfrifol o dan y gyfraith am wneud yn sicr bod offer nwy, pibelli a ffliwiau nwy yn eich cartref yn cael eu cynnal yn dda ac yn ddiogel. Bydd peiriannydd sydd wedi cofrestru gyda Gas Safe yn gwneud prawf diogelwch nwy bob blwyddyn.

Mae’n bwysig iawn eich bod yn gadael i ni ddod i mewn i’ch cartref i wneud y profion diogelwch nwy. Mae’r gyfraith yn dweud bod rhaid i ni roi gwasanaeth i’r offer nwy bob blwyddyn, hyd yn oed os nad ydych yn eu defnyddio.

Bydd y Tîm Trwsio yn gwneud apwyntiad gyda chi. Os nad yw’r amser a’r dyddiad maen nhw’n ei gynnig yn addas i chi, a wnewch ail drefnu os gwelwch yn dda. Os na fyddwch yn gadael i ni ddod i mewn i’ch cartref, bydd gweithredu cyfreithiol yn digwydd, a gwneud cais i’r llys i gael ‘gorfodeb ar gyfer mynediad’.

Beth i’w wneud os byddwch yn amau bod nwy yn dianc
  • flame-871136_1920Gadael i Grid Genedlaethol wybod, ar unwaith, ar 0800 111 999
  • Troi’r cyflenwad nwy i ffwrdd wrth y prif fesurydd nwy
  • Agor y drysau a’r ffenestri
  • Peidiwch â throi unrhyw offer trydanol i ffwrdd na’i droi ymlaen, yn cynnwys y goleuadau, gan y gallai hynny achosi ffrwydrad
  • Peidiwch ag ysmygu, tanio matsys na golau canhwyllau

Diogelwch carbon monocsid

Gallwch gael gwybod mwy am ddiogelwch Carbon Monocsid yma.

Diogelwch Tân

Beth i’w wneud os oes tân

  • Peidiwch â thrio diffodd y tân eich hun
  • Peidiwch â chynhyrfu a byddwch yn gyflym, gwnewch yn siŵr bod pawb yn dod allan cyn gynted â phosib
  • Peidiwch ag ymchwilio achos y tân a cheisio achub eich pethau
  • Os oes yna fwg, arhoswch yn isel ble mae’r awyr yn fwy clir
  • Cyn i chi agor drws rhaid gwneud yn siŵr nad yw’n boeth – os yw’n boeth, peidiwch â’i agor oherwydd mae’n debyg bod tân ar yr ochr arall
  • Ffoniwch 999 yn syth ar ôl dod allan o’r adeilad ac arhoswch allan

Mae mwy o wybodaeth ar gadw’n ddiogel yn y cartref ar wefan Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.

Am ymweliad diogelwch tân am ddim gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ffoniwch nhw ar rhadffôn 0800 169 1234.

Diogelwch trydanol

Mae rhai camau syml y gallwch eu cymryd er mwyn eich helpu i atal sioc drydan a thân yn eich cartref. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Peidio â gorlwytho socedi plwg
  • Edrychwch yn aml i wneud yn siwr nad oes gwifrau wedi treulio neu wedi torri
  • Tynnwch blwg offer trydanol o’r soced pan nad ydynt yn cael eu defnyddio
  • Cadwch offer yn lân ac mewn cyflwr da
  • Dadweindiwch geblau hir yn llwyr cyn eu defnyddio

Mae mwy o gyngor ar gael yma