Efallai nad yw eich cartref yn addas i chi mwyach ond efallai nad ydych yn dymuno symud. Efallai y gallwch gael addasiadau wedi’u gwneud a fydd yn golygu na fydd rhaid i chi symud.
Efallai y gallwch gael grantiau i dalu am yr addasiadau hyn, yn amodol ar eich amgylchiadau.
Sut allaf i wneud cais am Gymhorthion ac Addasiadau?
Bydd angen atgyfeiriad gan Therapydd Galwedigaethol ar gyfer unrhyw addasiadau. Bydd angen i chi siarad gyda’ch meddyg neu weithiwr cymdeithasol ynglŷn â hyn. Yna byddwn yn gweithio gyda’ch Therapydd Galwedigaethol i gytuno ar addasiadau addas a sut y byddant yn cael eu talu.
Sut mae Cymhorthion ac Addasiadau yn cael eu hariannu?
Mae gan Tai Gogledd Cymru gyllideb ar gyfer mân gymhorthion ac addasiadau ac mae’n bosibl y gallwn ni dalu am waith sy’n costio llai na £1,000.
Mae’n bosibl y gallai unrhyw waith sy’n costio mwy na hyn gael ei ariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Ar ôl i ni dderbyn atgyfeiriad gan Therapydd Galwedigaethol, byddwn yn cysylltu â Llywodraeth Cynulliad Cymru i gael cyllid grant ar eich rhan. Mae’r amserlenni yn amrywio, ond bydd grantiau fel arfer yn cael eu cymeradwyo o fewn 3 mis.