Cyfrifoldebau Trwsio

Does dim byd yn parhau am byth, ac mae hynny’n cynnwys pob rhan o’ch cartref chi. Felly pan fydd pethau’n dod i ddiwedd oes, wedi gwisgo neu dreulio gormod neu dorri oherwydd oed a defnydd arferol arnynt, byddwn yn rhoi rhai yn eu lle. Byddwn yn cymryd cyfrifoldeb am ddiffygion mewn adeiladwaith, gwasanaethau, ffitiadau, gorffeniadau neu osodiadau rydym wedi’u darparu yn eich cartref os ydynt yn ddiffygiol a/neu wedi cyrraedd diweddeu hoes disgwyliedig.

Eich rhan chi o’r fargen yw gadael i ni gael mynediad i’ch cartref pan fydd angen gwaith y tim gwasanaethu nwy, trwsio neu gynnal, a chadw’r mannau byddwch yn eu rhannu efo pobl eraill yn edrych yn dda. Fel arfer, byddwn yn rhoi 24 awr o rybudd i chi os byddwn angen cael mynediad i’ch cartref, ond os yw’n fater brys a ni’n methu cael hyd i chi, efallai bydd rhaid i ni dorri i mewn. Os bydd rhaid gwneud hynny, byddwn yn gadael eich cartref yn ddiogel ar ôl i ni orffen.

Ein Cyfrifoldebau NiEich Cyfrifoldebau Chi
Rydym ni’n gyfrifol am drwsio:Rydych chi’n gyfrifol yn eich cartref eich hunan am drwsio’r rhain neu roi rhai yn eu lle:
To, simnai, landeri, pibelli dŵr glaw i lawrYr holl addurniadau mewnol, os nad yw eich cytundeb yn dweud yn wahanol
Waliau allanol a lloriauBylbiau golau, tiwbiau/dechreuwyr fflwroleuol, ffiwsys a batris
Drysau, fframiau, cliciedi drysau, cloeau yn fewnol ac allanolGorchuddion llawr, heblaw am rai rydym ni wedi’u gosod
Ffenestri, fframiau, siliau, cliciedi ffenestri a chortyn ffenestrPlygiau a chadwyni ar gyfer baths, basnau ymolchi a sinciau
Bath, basn ymolchi, sinc, tanc dŵr a phibelli dŵr gwastraffLlenwi mân graciau mewnol yn y waliau
Draeniau a phibelli dŵr gwastraffGorchudd twll llythyrau – newidiadau neu osod un newydd
Socedi, switshis a ffitiadau golauLeiniau dillad neu’r pyst i’w dal (heblaw am rai mewn llefydd bydd pobl yn eu rhannu)
Gwres canolog, gwresogyddion dŵr a thanau wedi’u ffitioSedd toiled newydd a’i gosod
Ffensys garddTorri goriadau ychwanegol a goriadau a chloeon newydd os bydd goriadau wedi mynd ar goll, neu waith trwsio oherwydd torri i mewn
Mynedfeydd, cynteddau, lifftiau, coridorau, arllwysfeydd sbwriel a mannau eraill bydd pobl yn eu rhannu, yn cynnwys eu golau trydan ac erial teledu bydd pobl yn ei rannuFfitiadau ystafell ymolchi fel daliwr rholyn toiled
Byddwn hefyd yn gwneud gwaith trwsio a phaentio allanol ar eich cartref ac unrhyw fannau sy’n cael eu rhannu, gan ddilyn cylch amser penodolTriniaeth amgylcheddol i nythod gwenyn meirch a morgrug, colomennod a gwiwerod, trafferthus (fermin), pla o chwain neu chwilod tu mewn i’r tŷ heblaw am os bydd diffyg yn yr adeilad, a phob tro os byddant du allan i’r cartref.
Gwaith ar goed ar dir cartrefi unigol (heblaw am rai efo gorchymyn gwarchod coed, neu gytundeb cynnal neu fyddai’n achosi difrod i’r eiddo pe na fyddent yn cael eu tocio)
Trwsio erialau teledu (heblaw am erial cymunedol)
Dadflocio sinc lle mae wedi blocio oherwydd i’r eitemau anghywir gael eu rhoi i lawr y beipen.
Rheoli cyddwysiad yn eich cartref, oni bai oherwydd diffyg eiddo.

Rydym yn gwybod y byddwch chi’n cymryd gofal o’ch cartref, ond mae damweiniau’n digwydd. Os byddwch chi neu aelodau o’ch teulu, ymwelwyr neu anifeiliaid anwes yn achosi niwed i unrhyw un o’r eitemau y byddem ni fel arfer yn gyfrifol am eu trwsio, mae’n debyg y bydd angen i chi dalu cost trwsio neu gost cael rhai newydd. Sylwch ar y rhan ‘Diffiniad o Ad-daladwy’ i weld beth sy’n waith i chi dalu amdano.