Llys y Coed, Llanfairfechan
Cae Ffynnon Road, Llanfairfechan, Conwy, LL33 0HP, United Kingdom
Nodweddion Allweddol
- Cegin wedi’i ffitio’n llawn, ystafell ymolchi ac ardal eistedd
- Cawod Mynediad Gwastad
- Lifftiau
- Mynediad hawdd i gadeiriau olwyn
- System mynediad drws diogel
- Digon o le parcio ceir
- Gofal a chefnogaeth ar gael am 24 awr
- Ardaloedd cymunedol – nifer o lolfeydd preifat, ystafell fwyta / bwyty, ardal batio awyr agored
- Llyfrgell ac ystafell TG
- Gerddi wedi’u tirweddu
Disgrifiad Llawn
Llys y Coed, Llanfairfechan oedd Cynllun Gofal Ychwanegol cyntaf Tai Gogledd Cymru, a ddatblygwyd mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
Anelir y cynllun at bobl 60 oed neu’n hŷn a chanddynt anghenion gofal a thai. Mae’n gyfle gwych i elwa ar ffordd o fyw annibynnol a diogel, wedi’i chefnogi gan ofal a chefnogaeth sy’n hyblyg ac wedi’u teilwra i’ch anghenion.
Fflatiau o ansawdd, wedi’u dylunio’n dda
Mae Llys y Coed wedi’i adeiladu i gynllun cyfoes o safon eithriadol a safonau cynaliadwyedd uchel. Mae 31 fflat hunangynhwysol 1 ystafell wely a 15 fflat 2 ystafell wely. Fe’u dyluniwyd i’ch galluogi i barhau i fyw’n annibynnol yn eich cartref eich hun ac i wneud bywyd yn haws.
Mae rhai o’r cyfleusterau’n cynnwys:
- Cegin wedi’i ffitio’n llawn, ystafell ymolchi ac ardal eistedd
- Cawod Mynediad Gwastad
- Lifftiau
- Mynediad hawdd i gadeiriau olwyn
- System mynediad drws diogel
- Digon o le parcio ceir
- Gofal a chefnogaeth ar gael am 24 awr
- Ardaloedd cymunedol – nifer o lolfeydd preifat, ystafell fwyta / bwyty, ardal batio awyr agored
- Llyfrgell ac ystafell TG
- Gerddi wedi’u tirweddu
Fideo Llys y Coed
Gofal a Chefnogaeth
Ceir hyblygrwydd llwyr yn y gofal a ddarparwn. Anogwn y trigolion i fyw bywyd llawn a gweithgar a bydd cynllun gofal a chefnogaeth personol, os bydd ei angen, yn cael ei deilwra i’ch helpu chi i fyw mor annibynnol â phosibl yn y ffordd o’ch dewis. Mae’r tîm gofal profiadol ar y safle am 24 awr y dydd ac mae cyswllt larwm cymunedol gyda chefnogaeth 24 awr ar gael hefyd.
Lleoliad Hyfryd
Mae Llys y Coed mewn llannerch goediog ddeniadol yn nhref glan môr dawel Llanfairfechan. Saif rhwng Conwy a Bangor ar Wibffordd yr A55, ar y brif reilffordd o Lundain i Gaergybi, mewn ardal o harddwch naturiol eithriadol, gan gynnig y gorau o ran hygyrchedd a heddwch. Mae gan y dref draddodiadol a chroesawgar hon ddewis o siopau a gwasanaethau ac mae ganddi nodweddion pensaernïol diddorol a golygfeydd gogoneddus.
Ffordd o fyw
Mae’r gallu i gymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden yn bwysig iawn i les pawb. Ceir ystod sylweddol o gyfleusterau i’w mwynhau yn Llys y Coed, a rhaglen gyson o ddigwyddiadau sy’n darparu ar gyfer amrywiaeth o ddiddordebau.
Mae’r datblygiad hefyd yn cynnig:
- Salon trin gwallt
- Ystafell ymolchi a gynorthwyir ac i bampro
- Ystafell golchi dillad
- Ystafell wely gwesteion ar gyfer y teulu a ffrindiau
- Stordy Sgwteri
Cynigia Llys y Coed gyfle i chi fyw yn annibynnol ac mae’n galluogi cyplau a ffrindiau i aros gyda’i gilydd. Gallwch gymryd rhan mewn gweithgareddau gyda thenantiaid eraill a’r gymuned leol gymaint neu gyn lleied ag y dewiswch.
Bodola gwir ymdeimlad o gymuned yn y cynllun hyfryd hwn, amgylchedd gwych i wneud ffrindiau newydd, i ddiddanu eich teulu a’ch ffrindiau neu dim ond i ymlacio a mwynhau’r hyn sydd o’ch amgylch.
Tystysgrifau Perfformiad Ynni (EPCs)
Dim EPC ar gaelCynllun Llawr
Dim cynllun llawr ar gaelSut i wneud cais
Os hoffech unrhyw wybodaeth arall am Llys y Coed neu os hoffech drefnu ymweliad, cysylltwch â ni ar 01492 572 727.
Neu gallwch gysylltu â Cheryl Haggas, Rheolwr Cynllun Ychwanegol Llys y Coed yn uniongyrchol ar 01248 680789 neu e-bost [email protected].