Hafod y Parc, Abergele

Hafod y Parc yw ein hail Gynllun Gofal Ychwanegol yng Nghonwy ac mae mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

Anelir y cynllun at bobl 60 oed neu’n hŷn a chanddynt anghenion gofal a thai. Mae’n gyfle gwych i elwa ar ffordd o fyw annibynnol a diogel, a gefnogir gan ofal a chefnogaeth sy’n hyblyg ac wedi’u teilwra i’ch anghenion.

Fflatiau o ansawdd, wedi’u dylunio’n dda

Mae Hafod y Parc wedi’i adeiladu i gynllun cyfoes o safon eithriadol a safonau cynaliadwyedd uchel. Mae 49 fflat hunangynhwysol gyda 2 ac 1 ystafell wely. Fe’u dyluniwyd i’ch galluogi i barhau i fyw’n annibynnol yn eich cartref eich hun ac i wneud bywyd yn haws.

Mae rhai o’r cyfleusterau’n cynnwys:

  • Cegin wedi’i ffitio’n llawn, ystafell ymolchi ac ardal eistedd
  • Cawod Mynediad Gwastad
  • Lifftiau
  • Mynediad hawdd i gadeiriau olwyn
  • System mynediad drws diogel
  • Digon o le parcio ceir
  • Gofal a chefnogaeth ar gael am 24 awr
  • Ardaloedd cymunedol – nifer o lolfeydd preifat, ystafell fwyta / bwyty, ardal batio awyr agored

Fideo Hafod y Parc

 

Gofal a Chefnogaeth

Ceir hyblygrwydd llwyr yn y gofal a ddarparwn. Anogwn y trigolion i fyw bywyd llawn a gweithgar a bydd cynllun gofal a chefnogaeth personol, os bydd ei angen, yn cael ei deilwra i’ch helpu chi i fyw mor annibynnol â phosibl yn y ffordd o’ch dewis. Mae’r tîm gofal profiadol ar y safle am 24 awr y dydd ac mae cyswllt larwm cymunedol gyda chefnogaeth 24 awr ar gael hefyd.

Lleoliad Hyfryd

Mae Hafod y Parc mewn lleoliad parc hardd a thawel ychydig oddi ar yr A55 yn Abergele, sef tref glan môr fechan ar arfordir Gogledd Cymru. Mae’r hen borthladd masnachu adeg y Rhufeiniaid hwn bellach yn adnabyddus am ei filltiroedd o dywod gwyn prydferth. Cafodd y dref ei henwi ar ôl yr afon Gele sy’n rhedeg drwy’r dref.

Mae gan Abergele sawl safle o ddiddordeb hanesyddol, gan gynnwys dwy fryngaer Oes Haearn yng Nghastell Cawr. Mae’n cynnig man cychwyn gwych i archwilio arfordir Gogledd Cymru, gan gynnig holl swyn cymuned fach.

Mae gan y dref agos at y traeth a chefn gwlad, ystod lawn o siopau lleol gan gynnwys archfarchnad fawr. Mae yno hefyd llyfrgell, canolfan nofio/chwaraeon, coleg, gorsaf drenau, ysbyty a’r cyfan ar lawr gwastad sy’n ei gwneud yn boblogaidd ar gyfer yr henoed a’r cartrefi ymddeol.

Ffordd o fyw

Mae’r gallu i gymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden yn bwysig iawn i les pawb. Ceir ystod sylweddol o gyfleusterau i’w mwynhau yn Hafod y Parc, a rhaglen gyson o ddigwyddiadau sy’n darparu ar gyfer amrywiaeth o ddiddordebau.

Mae’r datblygiad hefyd yn cynnig:

  • Salon trin gwallt
  • Ystafell ymolchi a gynorthwyir ac i bampro
  • Ystafell golchi dillad
  • Cyfres o ystafelloedd gwely i westeion ar gyfer y teulu a ffrindiau
  • Stordy Sgwteri

Bydd y cynllun hyfryd hwn yn cynnig amgylchedd gwych i wneud ffrindiau newydd, diddanu’ch teulu a’ch ffrindiau, neu dim ond i ymlacio a mwynhau’r hyn sydd o’ch amgylch.

Llys y Coed, Llanfairfechan

Llys y Coed, Llanfairfechan oedd Cynllun Gofal Ychwanegol cyntaf Tai Gogledd Cymru, a ddatblygwyd mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

Anelir y cynllun at bobl 60 oed neu’n hŷn a chanddynt anghenion gofal a thai. Mae’n gyfle gwych i elwa ar ffordd o fyw annibynnol a diogel, wedi’i chefnogi gan ofal a chefnogaeth sy’n hyblyg ac wedi’u teilwra i’ch anghenion.

Fflatiau o ansawdd, wedi’u dylunio’n dda

Mae Llys y Coed wedi’i adeiladu i gynllun cyfoes o safon eithriadol a safonau cynaliadwyedd uchel. Mae 31 fflat hunangynhwysol 1 ystafell wely a 15 fflat 2 ystafell wely. Fe’u dyluniwyd i’ch galluogi i barhau i fyw’n annibynnol yn eich cartref eich hun ac i wneud  bywyd yn haws.

Mae rhai o’r cyfleusterau’n cynnwys:

  • Cegin wedi’i ffitio’n llawn, ystafell ymolchi ac ardal eistedd
  • Cawod Mynediad Gwastad
  • Lifftiau
  • Mynediad hawdd i gadeiriau olwyn
  • System mynediad drws diogel
  • Digon o le parcio ceir
  • Gofal a chefnogaeth ar gael am 24 awr
  • Ardaloedd cymunedol – nifer o lolfeydd preifat, ystafell fwyta / bwyty, ardal batio awyr agored
  • Llyfrgell ac ystafell TG
  • Gerddi wedi’u tirweddu

Fideo Llys y Coed

 

Gofal a Chefnogaeth

Ceir hyblygrwydd llwyr yn y gofal a ddarparwn. Anogwn y trigolion i fyw bywyd llawn a gweithgar a bydd cynllun gofal a chefnogaeth personol, os bydd ei angen, yn cael ei deilwra i’ch helpu chi i fyw mor annibynnol â phosibl yn y ffordd o’ch dewis. Mae’r tîm gofal profiadol ar y safle am 24 awr y dydd ac mae cyswllt larwm cymunedol gyda chefnogaeth 24 awr ar gael hefyd.

Lleoliad Hyfryd

Mae Llys y Coed mewn llannerch goediog ddeniadol yn nhref glan môr dawel Llanfairfechan. Saif rhwng Conwy a Bangor ar Wibffordd yr A55, ar y brif reilffordd o Lundain i Gaergybi, mewn ardal o harddwch naturiol eithriadol, gan gynnig y gorau o ran hygyrchedd a heddwch. Mae gan y dref draddodiadol a chroesawgar hon ddewis o siopau a gwasanaethau ac mae ganddi nodweddion pensaernïol diddorol a golygfeydd gogoneddus.

Ffordd o fyw

Mae’r gallu i gymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden yn bwysig iawn i les pawb. Ceir ystod sylweddol o gyfleusterau i’w mwynhau yn Llys y Coed, a rhaglen gyson o ddigwyddiadau sy’n darparu ar gyfer amrywiaeth o ddiddordebau.

Mae’r datblygiad hefyd yn cynnig:

  • Salon trin gwallt
  • Ystafell ymolchi a gynorthwyir ac i bampro
  • Ystafell golchi dillad
  • Ystafell wely gwesteion ar gyfer y teulu a ffrindiau
  • Stordy Sgwteri

Cynigia Llys y Coed gyfle i chi fyw yn annibynnol ac mae’n galluogi cyplau a ffrindiau i aros gyda’i gilydd. Gallwch gymryd rhan mewn gweithgareddau gyda thenantiaid eraill a’r gymuned leol gymaint neu gyn lleied ag y dewiswch.

Bodola gwir ymdeimlad o gymuned yn y cynllun hyfryd hwn, amgylchedd gwych i wneud ffrindiau newydd, i ddiddanu eich teulu a’ch ffrindiau neu dim ond i ymlacio a mwynhau’r hyn sydd o’ch amgylch.

 

Cwrt Taverners, Llandudno

Mae Cwrt Taverners yn cynnig 31 fflat un a dwy ystafell wely i’w rhentu i bobl 55 oed neu’n hŷn yn ardal Pen Morfa yn Llandudno.

Mae mewn ardal brydferth yn agos at y traeth a’r cyfleusterau lleol, gyda chysylltiadau cludiant gwych hefyd; bydd taith fer mewn car neu fws yn eich cludo i ganol tref Llandudno sydd â gweithgareddau hamdden a chyfleusterau siopa gwych.

Mae pob fflat yn hunangynhwysol ac yn cynnwys cegin gydag unedau wedi’u ffitio’n llawn, ystafell ymolchi, ystafell wely a lolfa. Mae gan y cynllun lifft, maes parcio ar y safle, lolfa gymunedol, gardd ac ardal batio y gall y trigolion eu mwynhau. Mae gan bob fflat ffenestri gwydr dwbl a gwres trwy stôr-wresogyddion trydanol.

Mae ystafell westeion gyfleus ar gael am dâl bychan ar gyfer ymweliad gan ffrindiau a theulu.

Cefnogir pob eiddo ar ddiwrnodau’r wythnos gan Warden profiadol a all gynnig help llaw a chefnogaeth pan fydd arnoch ei angen. Cefnogir ein holl eiddo hefyd gan larwm argyfwng 24 awr a system mynediad trwy ddrws diogel.

Cynigir gweithgareddau cymdeithasol dewisol hefyd, sy’n rhoi’r cyfle i chi fwynhau hobïau newydd neu rai sydd gennych yn barod a chymdeithasu.

Taith arlein

Ewch ar daith o Cwrt Taverners eich hun trwy glicio yma https://360.ht/iframe/2UJMGWB