Adolygu Tal Gwasanaeth – Diweddariad
Dros fisoedd yr haf, buom yn siarad â 1026 o drigolion (a cheisio siarad â 2141 o drigolion) sy’n talu tâl(au) gwasanaeth. Roedd hyn yn bersonol ar draws ein cartrefi yng Ngogledd Cymru a thros y ffôn.
Roeddem am gael eich adborth ynghylch a oedd gwasanaethau’n fforddiadwy, o ansawdd da, ac yn darparu gwerth am arian. Fe wnaethom hefyd rannu ein hymagwedd newydd at wybodaeth am daliadau gwasanaeth a chasglu adborth gennych chi am y gwasanaethau yr ydych yn eu derbyn.
Y ffeithiau
- Mae 2,141 o denantiaid yn talu tâl gwasanaeth
- Mae TGC yn darparu ystod o wasanaethau y codir tâl amdanynt megis; arlwyo, gwresogi, goleuo, offer diogelwch, a glanhau. Mae’r gwasanaethau a gewch yn dibynnu ar y llety rydych yn byw ynddo a’ch anghenion.
Yr hyn a ddywedasoch wrthym a beth yr ydym yn ei wneud gyda’ch adborth
- Dywedodd y mwyafrif o bobl wrthym fod taliadau gwasanaeth yn fforddiadwy. Dywedodd 5% o’r tenantiaid a gymerodd ran wrthym fod eu taliadau gwasanaeth yn anfforddiadwy. Mae ein tîm yn cysylltu â’r tenantiaid hyn i roi cyngor a chymorth ychwanegol.
- Dywedodd 81% o’r trigolion fod y gwasanaethau’n rhagorol ar gyfartaledd. Teimlai 9% o drigolion fod ansawdd y gwasanaethau a ddarperir yn wael. Rydym nawr yn adolygu dau wasanaeth penodol o ganlyniad i’r adborth hwn.
- Fe wnaethom rannu taflenni gwybodaeth newydd/gwell yn manylu ar daliadau gwasanaeth unigol (yn seiliedig ar adborth cynharach gan breswylwyr). Roedd mwyafrif llethol 97% o’r farn bod y rhain yn fwy addysgiadol a hawdd eu deall. Byddwn yn parhau i ddefnyddio’r dull hwn i rannu gwybodaeth am daliadau gwasanaeth gyda chi.
- Ar y cyfan roedd yr adborth am ansawdd y taliadau gwasanaeth yn gadarnhaol, fodd bynnag, rydym yn edrych ar wasanaethau penodol lle teimlai preswylwyr y gellid gwella’r ansawdd.
- Nodwyd dau gynllun gennym lle nad oedd gwasanaethau wedi’u darparu. Rydym yn unioni hyn gyda’r trigolion yr effeithir arnynt.
- Yn ogystal â gwybodaeth am daliadau gwasanaeth, rhannodd preswylwyr hefyd lawer o adborth gwerthfawr am faterion eraill megis sbwriel, mannau cymunedol, diwrnodau cymunedol, ceisiadau atgyweirio, ac atgyfeiriadau am gymorth lles ariannol. Rydym wedi cynllunio rhai digwyddiadau i siarad yn benodol am wella ein mannau gwyrdd, rydym wedi cael rhai dyddiau cymunedol gwych dros y misoedd diwethaf lle rydym wedi darparu sgipiau – ac wedi cynllunio mwy!
Fforddiadwyedd
Ansawdd
Diolch
Diolch enfawr i bawb a gymerodd ran. Mae eich cyfranogiad gweithredol wedi cyfrannu’n sylweddol at y ddeialog barhaus sy’n llywio dyfodol gwasanaethau Tai Gogledd Cymru. Fe wnaeth ein tîm fwynhau cysylltu â chymaint o drigolion yn fawr
Os oes gennych gwestiwn am eich taliadau gwasanaeth, cysylltwch â ni.