Cadeirydd Tai Gogledd Cymru yn cipio gwobr cyflawniad oes

Mae Tom Murtha, Cadeirydd Tai Gogledd Cymru, wedi cipio gwobr am gyflawniad oes yng Ngwobrau Amrywiaeth diweddar cylchgrawn 24Housing.

Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo nodedig yng Nghlwb Pêl Droed Aston Villa, Birmingham ar y 10fed o Fai – mynychodd Tom y digwyddiad gyda Helena Kirk, Prif Weithredwr Tai Gogledd Cymru.

Wrth ennill y wobr dywedodd Tom:

“Rwyf wrth fy modd ac yn teimlo’n fachg iawn o fod wedi ennill y wobr; roedd yn anrhydedd go iawn i gyrraedd y rhestr fer. Rwy’n gwybod o’m gwaith yn y sector dros sawl blwyddyn bod llawer o enillwyr teilwng yn y categori hwn. Roedd yn wych cael dathlu beth mae fy nghydweithwyr wedi’i gyflawni ar draws y sector tai mewn maes sy’n agos iawn at fy nghalon.”

Ychwanegodd Helena Kirk, Prif Weithredwr Tai Gogledd Cymru:

“Mae hyn yn llwyddiant gwych ac rydym am longyfarch Tom yn fawr ar ennill y wobr. Rwy’n gwybod pa mor bwysig yw’r gwaith yma iddo, felly mae’n hollol addas ei fod yn cael ei gydnabod fel hyn. Rydym hefyd yn falch iawn ei fod yn cynrychioli Tai Gogledd Cymru yn y digwyddiad pwysig hwn, ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gydag ef fel y gall barhau â’i waith da ar leihau anghydraddoldeb yn y maes tai.”

Dywedodd panel y beirniaid am waith Tom,:”Mae ganddo restr faith o gyflawniadau ar faterion amrywiaeth a chydraddoldeb. Mae Tom yn gosod esiampl gwirioneddol.”

Treuliodd Tom ei yrfa gyfan – ers pan oedd yn fyfyriwr hyd at adeg ymddeol, yn gweithio dros hawliau a chydraddoldeb i grwpiau lleiafrifol yn y sector tai.

Mae wedi cyflawni llawer, o’i rôl gyda Grŵp Hil a Thai’r Ffederasiwn Tai Cenedlaethol hyd at ei aelodaeth o Gomisiwn Hil a Thai’r Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol. Cyn ymuno efo Tai Gogledd Cymru roedd yn brif weithredwr ar un o brif ddarparwyr tai cymdeithasol y Deyrnas Unedig.

Mae Tom yn parhau i ymgyrchu ar y diffyg cynnydd yn y sector tai ar faterion hil – ac ar hyn o bryd mae’n ceisio sefydlu ffordd newydd o weithredu tuag at hil ac amrywiaeth yng Nghymru.