Codi arian dros yr Haf i Hosbis Dewi Sant

Ers mis Ebrill 2016 rydym wedi bod yn brysur yn codi arian at ein dewis elusen y flwyddyn yma, sef Hosbis Dewi Sant. 

Mae Hosbis Dewi Sant yn elusen leol sy’n darparu gofal hosbis i oedolion sâl ar draws Conwy, Gwynedd a Sir Fôn. Ar hyn o bryd mae’n costio dros £2 filiwn i ddarparu’r gwasanaethau yn Hosbis Dewi Sant. Mae dros 84% o incwm yr elusen yn dod drwy godi arian yn lleol. 

Hyd yn hyn rydym wedi codi £2,094. Dyma sut lwyddon ni… 

Roedd her Cwch y Ddraig ar gyfer hosbis leol i oedolion yn anhygoel! 

Un o ddigwyddiadau blynyddol mwyaf Hosbis Dewi Sant yw Her Cwch y Ddraig. Cynhaliwyd y digwyddiad codi arian poblogaidd hwn yn Llyn Padarn, Llanberis gyda phedwar o gychod draig Hong Kong 40 troedfedd yn rasio i’r llinell derfyn, a chodwyd miloedd o bunnoedd yn y broses. 

Eleni ymunodd staff Tai Gogledd Cymru yn yr her gan rasio mewn tri chwch yn y digwyddiad! 

Roedd dros 25 o dimoedd yn cymryd rhan eleni a’r pencampwyr presennol ‘Pro Build’, Llandudno, enillodd yn y rowndiau terfynol. 

Ond yr enillydd i ni oedd y Tîm Cynnal a Chadw a gwblhaodd y ras mewn amser gwych o 1munud 3eiliad. 

Ffair Haf Tai Gogledd Cymru 

Roedd gennym siop a dau stondin yn Ffair Haf Hosbis Dewi Sant ar ddydd Sadwrn y 30ain o Orffennaf. Cynhaliwyd y Ffair Haf ar gaeau’r Hosbis (Lôn yr Abaty, Llandudno), ac roedd llawer o gemau llawn hwyl a stondinau i edrych arnynt. A daeth yr haul i ddweud helo!

Cododd stondinau Tai Gogledd Cymru arian i’r elusen, gan gynnwys cystadlaethau bachu’r hwyaden, rolio’r geiniog a dyfalu enw’r tedi.

Coffi am arian yng Nghae Garnedd

Mae preswylwyr Cae Garnedd, ein cynllun gofal ychwanegol ym Mangor, wedi bod yn brysur yn trefnu bore coffi a raffl i godi arian i Hosbis Dewi Sant. Codwyd cyfanswm o £72. Llongyfarchiadau i Jane Ellis a enillodd y raffl, gan ennill hamper.

Oes gennych chi unrhyw syniadau sut y gallwn godi arian? Cysylltwch â ni ar [email protected] neu ffoniwch 01492 572727.