O Fflat i Gartref Breuddwydiol: Dechreuad Newydd

Ar ôl chwe blynedd mewn fflat cyfyng dwy ystafell wely heb le awyr agored, roedd Sarah a’i dau fachgen ifanc yn aros yn eiddgar am newid.

Gan gydnabod eu hangen am gartref gwell, roedd Tai Gogledd Cymru wedi ymrwymo i helpu i drawsnewid eu bywydau gyda chartref gwych. Ym mis Tachwedd, roedd Sarah a’i bechgyn wrth eu bodd wrth iddynt gael y goriadau i’w tŷ newydd.

“Dyma bopeth rydyn ni erioed wedi ei eisiau!” meddai Sarah. “Rwyf wrth fy modd â’r ystafelloedd mawr ac mae fy mechgyn yn mynd i garu’r ardd hon! Rydyn ni’n mynd i fod mor hapus yma.”

I Sarah a’i bechgyn, mae’r tŷ newydd hwn yn golygu mwy na dim ond cyfeiriad newydd. Mae’n ddechrau newydd, lle gallant ffynnu a chreu atgofion hapus gyda’i gilydd.

“Rwy’n ddiolchgar iawn am bopeth mae Tai Gogledd Cymru wedi’i wneud i mi a’m bechgyn – diolch!”

Trwy ddarparu cartrefi gwych fel un Sarah, gwasanaethau o safon, a chefnogaeth ddiwyro, mae Tai Gogledd Cymru yn parhau i gyflawni ei genhadaeth o drawsnewid bywydau.

Mae enw Sarah wedi cael ei newid am resymau preifatrwydd.