Preswylwyr creadigol mewn partneriaeth prosiect celf

Mae grŵp o ddefnyddwyr gwasanaethau tai â chymorth Tai Gogledd Cymru wedi datblygu eu hochr greadigol mewn rhaglen gelfyddydol ysbrydoledig fel rhan o bartneriaeth rhwng Gwasanaeth Amgueddfeydd a Chelfyddydau Cyngor Gwynedd a Tai Gogledd Cymru.

Mi wnaeth y grŵp o 8 tenant a defnyddiwr gwasanaeth gwblhau cyfres o chwe gweithdy celf wythnosol yng nghwmni’r artist lleol Karen Ball, a wnaeth eu cyflwyno i ystod o ddisgyblaethau a thechnegau artistig.

Dywedodd Julie Eddowes Swyddog Allgymorth ac Adsefydlu Tai Gogledd Cymru:

Mae hwn wedi bod yn brosiect gwych sydd nid yn unig wedi caniatáu i’r tenantiaid a’r defnyddwyr gwasanaeth ddatblygu eu sgiliau a’u galluogi i fynegi eu hunain yn gelfyddydol, ond mae hefyd wedi annog y grŵp i weithio fel tîm, a rhannu eu profiadau, eu safbwyntiau a’u teimladau.

 

Mae’r gwaith a grëwyd gan bob un ohonynt yn anhygoel ac yn dangos doniau go iawn!”

Mi wnaeth y cyfranogwyr o hostel Santes Fair, Gwasgaredig Gwynedd ac Allgymorth ac Ailsefydlu Tai Gogledd Cymru ym Mangor a fynychodd y sesiynau fwynhau’r profiad yn arw.

Dywedodd tenant Tai Gogledd Cymru Dafydd Lloyd a gymerodd ran yn y prosiect:

Mi wnes i fwynhau’r gweithdai yn fawr; roedd yn brofiad celf dymunol iawn ac roedd y gwaith yn amrywiol a diddorol. Rydym yn gobeithio cael mwy o weithgareddau fel hyn yn y dyfodol.”

Cafodd yr holl sesiynau celf eu cynnal yn Storiel, Amgueddfa ac Oriel Gwynedd sydd newydd agor ym Mangor.

Roedd hwn yn lleoliad gwych i weithio ynddo, lle rhyfeddol a oedd yn darparu llawer o ysbrydoliaeth ar gyfer y gwaith celf.”