Staff TGC yn beicio yr ail filltir ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru

Ar ddydd Sul 12 o Orffennaf aeth grŵp o staff Tai Gogledd Cymru a’u ffrindiau wedi mynd ar eu beiciau a seiclo am 45 milltir caled ar draws Ynys Môn er budd Ambiwlans Awyr Cymru.

Cwblhaodd y beicwyr yr her mewn amser da, sef 4 awr, gan groesi’r llinell derfyn yn Aberffraw, ar ôl seiclo drwy gefn gwlad braf Ynys Môn.

Rhoddodd staff hefyd o’u hamser rhydd ar y dydd Sadwrn, gan gynnig eu gwasanaethau pacio bagiau yn Tesco, Bangor, fel rhan o ymdrech ar draws y sefydliad i godi arian ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru.

Paul Diggory, Prif Weithredwr TGC:

“Bob blwyddyn rydym yn dewis elusen i godi arian ar ei chyfer ac eleni rydym wedi dewis Ambiwlans Awyr Cymru. Mae’n elusen mor werth chweil ac mae’r staff wedi bod yn hynod gefnogol.”

“Rydym eisoes wedi codi dros £2,000, ymhell dros hanner ein targed codi arian. Mae wedi bod yn ymdrech tîm go iawn i godi arian, ac mae staff wedi rhoi o’u hamser rhydd i wneud pethau fel y daith feicio a’r pacio bagiau.”

Dywedodd Rheolwr Codi Arian Ambiwlans Awyr Cymru, Lynne Garlick:

“Rydym wedi rhyfeddu at waith caled mae tîm Tai Gogledd Cymru wrth godi arian i ni! O dreulio eu hamser yn pacio bagiau i’r her beicio, rydym yn gwerthfawrogi eu cefnogaeth yn fawr.”

“Rydym yn dibynnu’n llwyr ar roddion i godi’r £6 miliwn a mwy sydd ei angen arnom bob blwyddyn i ariannu cost ein gwasanaeth, a bydd yr arian a godir yn helpu i gadw ein hofrenyddion yn yr awyr.”

Gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am ein her codi arian ar Facebook neu drwy ein tudalen JustGiving . Gallwch hefyd gyfrannu ar-lein trwy ein tudalen JustGiving .