Mae Cystadleuaeth garddio TGC yn nol!
Yn dilyn llwyddiant y gystadleuaeth garddio blwyddyn ddiwethaf rydym yn nol am yr ail flwyddyn!
Rydym yn galw holl arddwyr brwd i gymryd rhan yn ein cystadleuaeth garddio. Mae’r catgoriau wedi newid rywfaint blwyddyn yma. Y categorïau yw:
- Yr Ardd Orau
- Yr ardd sydd wedi gwella fwyaf i denantiaid sydd wedi gwella eu gardd (bydd angen lluniau o’r ardd fel yr oedd yn arfer edrych)
- Yr ardd potiau orau Potiau, basgedi, bocsys ffenestri ac ati
- Gardd/gofod cymunedol taclusa
Y dyddiad cau yw 23 Mehefin 2017 a disgwylir i’r beirniadu digwydd ym mis Gorffennaf 2017.
Lawr lwythwch a chwblhewch y ffurflen gais yma.
Os hoffech gael mwy o fanylion am y gystadleuaeth yna cysylltwch ag Iwan Evans ar 01492 563232 neu [email protected].