Ymddygiad gwrth-gymdeithasol

Yn Tai Gogledd Cymru rydym yn deall pa mor bwysig ydyw i chi allu byw yn heddychlon yn eich cartref ac mae gennym ddyletswydd i sicrhau eich bod yn gallu gwneud hyn.

Ymddygiad gwrth-gymdeithasol yw ymddygiad sy’n gallu achosi aflonyddwch, braw neu drallod i unigolyn mewn cartref gwahanol i’r achwynydd ac sy’n gysylltiedig â rôl rheoli tai landlord.  Ymhlith rhai o’r mathau o ymddygiad y gellid eu hystyried yn wrth-gymdeithasol mae:

  • Niwsans sŵn, yn cynnwys ymddygiad afreolus, meddw
  • Brawychu ac aflonyddu
  • Cŵn yn baeddu ardaloedd cyhoeddus
  • Defnyddio cartrefi i werthu cyffuriau neu at ddibenion anghyfreithlon eraill
  • Niwsans gan gerbydau, yn cynnwys parcio anystyriol a cheir wedi’u gadael

Drwy lofnodi cytundeb tenantiaeth rydych wedi cytuno i beidio ymddwyn mewn ffordd nad yw’n cael ei hystyried yn wrth-gymdeithasol.

Safonau Gwasanaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

  1. Byddwn yn ymateb i bob adroddiad o Ymddygiad Gwrthgymdeithasol o fewn 5 niwrnod gwaith a bydd y swyddog a enwir sy’n ymdrin â’r mater yn dilyn hyn yn ysgrifenedig
  2. Byddwn yn ymateb i adroddiadau brys o aflonyddu hiliol, trais yn y cartref, digwyddiadau sy’n gysylltiedig â chasineb a chwynion lle mae perygl o drais a/neu ddifrod i eiddo o fewn 24 awr i dderbyn adroddiad o’r fath
  3. Drwy gydol yr ymchwiliad, fel isafswm,bydd y swyddog a enwir yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi pob 10 diwrnod gwaith
  4. Lle llwyddir i ddelio â’r broblem neu os nad yw’r dystiolaeth yn bodoli (neu os na ellir ei chael), fe’ch hysbysir yn ysgrifenedig bod yr achos wedi’i gau gan roi’r rhesymau am hynny. Am resymau diogelu data, efallai na fyddwn yn gallu rhoi manylion llawn am ein gweithredoedd

Adrodd ymddygiad gwrthgymdeithasol drwy’r ddolen isod. Gallwch hefyd hysbysu eich Tîm Tai ynglŷn ag Ymddygiad Gwrth-gymdeithasol.