Asbestos

Asbestos yw’r enw a roddir ar grŵp o fwynau sy’n digwydd yn naturiol mewn carreg. Mae tri phrif fath o asbestos yn cael eu defnyddio yn y DU gan gynnwys glas (Crosidolit), brown (Grwnerit) a gwyn (Crysotil), er y gall lliwiau fod yn gamarweiniol oherwydd bod ychwanegion paent, prosesu diwydiannol neu amser yn golygu bod asbestos yn gallu bod unrhyw liw.

Does dim angen poeni. Hyd yn oed os oes gennych asbestos yn eich cartref ac mae mewn cyflwr da, nid yw’n broblem fel arfer. Mae asbestos ond yn beryglus os yw’n cael ei ddifrodi neu os aflonyddir arno yn ystod gwaith ar eich cartref.

Lawrlwytho: Canllaw i asbestos

Cyngor asbestos

  • Peidiwch â chynhyrfu! Fel arfer bydd asbestos ond yn broblem os caiff ei aflonyddu neu ei ddifrodi
  • Gadewch lonydd i unrhyw ardal neu gynnyrch sydd wedi’i ddifrodi ac a allai gynnwys asbestos
  • Peidiwch â hel llwch, sgubo neu hwfro unrhyw faw neu falurion a allai gynnwys asbestos
  • Peidiwch â thynnu lagin, cotiadau chwistrell neu fwrdd inswleiddio asbestos
  • Os oes amheuaeth, ffoniwch ni ac mi wnawn ni gael arbenigwr I daro golwg ar bethau ac yna byddwn ni’n gwneud rhywbeth am y sefyllfa. Mewn unrhyw achos, byddwn yn rhoi gwybod i chi felly nid oes angen i chi boeni

Gadewch y peth i ni

Os credwch fod gennych asbestos yn eich cartref byddwn yn edrych ar ein cofnodion ac os oes angen, yn trefnu arolwg o’ch eiddo. Efallai y byddwn yn cymryd sampl o unrhyw ran yr ydym yn amau ei bod yn cynnwys asbestos, ac yn anfon y sampl i labordy i’w ddadansoddi. Yn dibynnu ar y canlyniadau, efallai y byddwn wedyn yn ei orchuddio gyda phaent amddiffynnol, byrddau arbennig neu drefnu iddo gael ei dynnu.

Cysylltwch â Trwsio ar 01492 572727 neu anfonwch e-bost at [email protected].