Cwyn

Mae Tai Gogledd Cymru (TGC) wedi ymrwymo i ymdrin yn effeithiol ag unrhyw bryderon neu gwynion sydd gennych am ein gwasanaeth. Ein nod yw egluro unrhyw faterion nad ydych yn sicr yn eu cylch.

Lawrlwythwch ein taflen Cwyno

Os yn bosibl, byddwn yn unioni unrhyw gamgymeriadau y gallem fod wedi’u gwneud. Byddwn yn darparu unrhyw wasanaeth y mae gennych hawl iddo ac rydym wedi methu â’i ddarparu. Os ydym wedi cael rhywbeth yn anghywir, byddwn yn ymddiheuro a lle bo’n bosibl byddwn yn ceisio unioni pethau. Rydym hefyd yn anelu at ddysgu o’n camgymeriadau a defnyddio’r wybodaeth a gawn i wella ein gwasanaethau. Mae ein trefn gwyno yn seiliedig ar y canllawiau a roddir i gyrff cyhoeddus gan yr Awdurdod Safonau Cwynion.

Beth yw Cwyn?

Mae Cwyn yn:

  • Fynegiant o anfodlonrwydd neu bryder
  • Wedi’i ysgrifennu neu ar lafar neu wedi’i wneud trwy unrhyw ddull cyfathrebu arall
  • Wedi’i wneud gan un neu fwy o aelodau’r cyhoedd (rhywun neu grŵp sy’n derbyn neu wedi cael gwrthod gwasanaeth y mae ganddynt hawl iddo gan TGC)
  • Ymwneud â gweithred neu ddiffyg gweithredu TGC neu safon y gwasanaeth a ddarperir
  • Rhywbeth sydd angen ymateb

Nid yw cwyn yn golygu:

  • Cais cychwynnol am wasanaeth, fel rhoi gwybod am waith trwsio
  • Apêl yn erbyn penderfyniad ‘a wnaed yn briodol’
  • Mater yn ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol

Sut i wneud cwyn?

Gellir gwneud cwyn trwy lythyr, e-bost, ar lafar yn bersonol, neu ar lafar dros y ffôn. Dylid gwneud cwyn o fewn 6 mis i’r digwyddiad perthnasol. Fodd bynnag, gall fod eithriadau i hyn os oes rheswm da. Gallwch ofyn i eiriolwr weithredu ar eich rhan ar yr amod ein bod wedi cael caniatâd ysgrifenedig gennych chi neu’r partïon dan sylw, neu lle mae dogfennau sy’n caniatáu i eiriolwyr weithredu ar ran unigolyn sydd heb alluedd (fel y’i diffinnir gan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005).

Ar-lein

E-bost: [email protected]

Ffôn: 01492 572727

Llythr: Tai Gogledd Cymru, Plas Blodwel, Broad Street, Cyffordd Llandudno, Conwy, LL31 9HL